Fydd yr hawliau iaith cyntaf i gael gwasanaethau Cymraeg ddim yn weithredol tan y flwyddyn nesaf - 5 mis yn hwyrach nag a gynlluniwyd - wedi ymateb hallt i ddrafft reoliadau Llywodraeth Cymru.
Mewn datganiad heddiw, dywedodd y Prif Weinidog: "Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu dilyn cyngor y Comisiynydd a chynnal ymgynghoriad am gyfnod o 4 wythnos ar y Rheoliadau drafft i wneud safonau o dan adran 26 y Mesur… O gynnal yr ymgynghoriad ym mis Tachwedd 2014, byddwn felly mewn sefyllfa i gyflwyno’r safonau i’r Cynulliad ym mis Chwefror 2015.” Bwriad gwreiddiol y Llywodraeth oedd pasio’r safonau iaith – dyletswyddau iaith a fydd yn disodli cynlluniau iaith – ym mis Tachwedd eleni.
Ymatebodd cannoedd o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i’r ymgynghoriad ddechrau eleni gan alw ar y Llywodraeth i gadw at ei haddewidion: i sicrhau bod y safonau yn creu hawliau clir i bobl; peidio â gadael i gyrff gynnig gwasanaethau sy'n llai na chynlluniau iaith; galluogi rhagor o gyrff i weithredu'n fewnol yn Gymraeg; a sicrhau bod gwasanaethau sy'n cael eu contractio allan yn cael eu darparu yn yr iaith.
Dywedodd Robin Farrar: “Er nad yw’n ddymunol bod y Llywodraeth wedi achosi rhagor o oedi ar y safonau iaith, mae’n ganologol eu bod yn fodlon gwrando ar y mudiadau sydd wedi galw am newidiadau sylfaenol iddyn nhw. Rydyn ni’n disgwyl i Carwyn Jones gadw at ei air i wrando ac i weithredu’r newidiadau er mwyn datrys y gwendidau sylfaenol yn ei safonau drafft. Mae cannoedd o’n haelodau wedi pwyso ar y Llywodraeth i sicrhau bod pobl yn cael hawliau clir, yn hytrach na rheoliadau sydd ond yn hwylus i gyrff a chwmnïau.
“Fel maen nhw ar hyn o bryd, byddai’r Llywodraeth yn torri nifer o addewidion a wnaed gan y Prif Weinidog. Maen nhw’n gadael i gyrff gynnig gwasanaethau llai na sydd ar bapur mewn cynlluniau iaith ac yn caniatáu i wasanaethau sydd wedi eu contractio allan fod yn uniaith Saesneg. Mae nifer o gyrff hefyd am symud at sefyllfa lle maen nhw'n gweinyddu'n fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys Cyngor Sir Caerfyrddin, ond dyw'r safonau ddim yn cynnig dim modd i gefnogi'r dyhead yna. Yn wir, does yr un safon sy'n mynd i sicrhau bod cyrff yn cyflogi staff gyda sgiliau iaith er mwyn darparu'r gwasanaeth yn Gymraeg."
Mewn digwyddiad ar faes yr Eisteddfod yn Llanelli, bydd y mudiad yn gosod her i’r safonau iaith am 2:30pm, Dydd Mawrth, Awst 5ed.