Dyddiad: Penwythnos 2il a 3ydd o OrffennafLleoliad: Tafarn y Cwps, AberystwythDigwyddiad: Rhagbrofion Cystadleuaeth Brwydr y Bandiau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 2004
Nos Wener: Neb, Rasputin a Black Mushrooms Nos Wener yn Nhafarn y Cwps a mae'r tensiwn yn berwi wrth i dri band ifanc llawn gobaith baratoi i gystadlu am le yn rownd derfynol Brwydr y Bandiau yng Nghlwb Pont Ebwy, Casnewydd yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Byddai un o'r tri yn sicr o gamu ymlaen i Gasnewydd a'r ddau arall yn gobeithio rhoi perfformiad digon da i fynd ymlaen fel yr eilion gorau.Y band cyntaf i chwarae oedd Neb o'r Wyddgrug, sef band ieuengaf y gystadleuaeth. Gwnaeth Neb argraff cyn chwarae nodyn gyda'r band i gyd mewn crysau arbennig gyda enw'r band arnynt i wneud yn siw^r fod y gynulleidfa yn gwybod yn union pwy oeddent. Er mai dim ond 15 oed yw'r aelodau, roedd yn amlwg eu bod i gyd yn offerynwyr da iawn a gwnaeth y 'front man' ei waith trwy siarad gyda'r dorf drwy'r set. Mae Neb yn fand gitar eithaf trwm ac roedd eu set yn ddechreuad arbennig o dda i'r gystadleuaeth.Yr ail fand i gystadlu ar y noson oed Rasputin o ardal Dyffryn Teifi/Llandysul. Mae Rasputin yn sicr yn 'fand gitar' yng ngwir ystyr y gair gyda thri aelod yn chwarae gitâr ar adegau. Dechreuodd y set gyda chyflwyniad effeithiol o'r holl aelodau ac roedd yn amlwg fod cryn brofiad gigio gan y band. Roeddent i gyd yn hyderus ar y llwyfan, yn dynn iawn ac roedd amrywiaeth da yn eu set oedd eithaf trwm ei naws. Roedd y gystadleuaeth yn argoeli i fod yn un agos!Band olaf y gystadleuaeth ar y nos Wener oedd The Black Mushrooms o Fangor. Roedd delwedd dda gan y band, er fod angen gweithio ychydig ar yr enw efallai! Dyma fand gitâr arall ond gyda sn ychydig yn fwy pop/pyncaidd na'r ddau fand cyntaf. Roedd eu set unwaith eto yn dda, ond roedd yn anffodus fod yr 'amps' braidd yn rhy dawel i'r gynulleidfa glywed gwir rym eu caneuon.Cafwyd egwyl byr yn dilyn hyn er mwyn i'r beirniaid, Llyr o'r band Chouchen ar ran Pwyllgor Adloniant y Gymdeithas ac aelodau enillwyr 2002, Mattoidz, drafod y bandiau. Wedi trafodaeth ddwys camodd Llyr ymlaen gyda'r canlyniad, a barn unfrydol y beirniaid oedd taw Rasputin oedd yn ennill y dydd.I gloi'r noson cafwyd set gan Mattoidz a brofodd cymaint roedd cyn-enillwyr Brwydr y Bandiau wedi datblygu yn y ddwy flynedd diwethaf. Yn dilyn eu llwyddiant yn y gystadleuaeth yn Solfach mae'r rhain wedi mynd ymlaen i sefydlu eu hunain oddi fewn i'r sin roc Gymraeg.Nos Sadwrn: Java, Pala a Bob Wedi safon y gystadleuaeth y noson flaenorol, roedd disgwyliadau mawr yn y Cwps ar gyfer ail ragbrawf Brwydr y Bandiau a ni chawsom ein siomi!Y band cyntaf ar y llwyfan oedd Java o Lanbedr Pot Steffan a'r disgrifiad cyntaf ym meddwl nifer o bobl ar y noson oedd 'Y Red Hot Chilli Peppers Cymraeg'!! Gyda 'set-up' syml o gitâr, bas, dryms a lleisydd roeddent roedd eu cerddoriaeth ffynci gyda riffs da yn agoriad ardderchog i'r noson. Roedd pob un yn offerynwyr ac yn berfformwyr arbennig ac yn dynn iawn fel band.Yr ail fand oedd Pala o'r Bala. Braf oedd cael amrywiaeth gyda'r rhain a hwnnw'n amrywiaeth o safon gyda 'set-up' syml arall o leisydd, allweddellau a drymiwr. Roedd caneuon Pala i gyd yn rai cryf, eithaf theatrig eu harddull ac roeddech yn teimlo fod pob un yn mynd â chi ar siwrnai. Roedd y llais a'r allweddellau yn gryf gan Pala a rhaid tynnu sylw at eu drymiwr gwych sydd yn ddim ond 13 oed!!Y band ifanc Bob o ochrau Dyffryn Nantlle oedd i ddirwyn y gystadleuaeth i ben a chynhaliwyd safon y penwythnos ganddynt. Unwaith eto roedd gan y rhain ddelwedd dda ac roeddent yn hyderus iawn ar lwyfan. Gyda eu swn trwm eithaf pynci, roedd yn amlwg eu bod i gyd yn offerynwyr da ac roedd eu caneuon 'catchy' yn boblogaidd iawn gyda'r dorf.Roedd yn argoeli i fod yn benderfyniad anodd iawn i'r beirniaid ar y noson, sef Gruff o'r Texas Radio Band, Bethan o Gilespi ac wrth gwrs Llyr o Chouchen! Wedi cyfnod a oedd yn teimlo fel oes i'r bandiau ifanc daeth Llyr i'r llwyfan i wneud y cyhoeddiad mawr taw Java oedd i fynd â hi ar y noson! Ond, doedd pethau ddim yn ddu i gyd i'r bandiau eraill gan iddo gyhoeddi hefyd mae Pala a Bob a fyddai'n ymuno gyda hwy a Rasputin yn y rownd derfynol yng Nghasnewydd. Gyda'r tri band yn hapus doedd dim ar ôl ond rhoi syniad iddynt o'r safon fyddai'n rhaid iddynt gyrraedd i ennill y gystadleuaeth yng Nghasnewydd trwy groesawu ennillwyr 2003, Fenks, i'r llwyfan. Cafwyd set tra gwahanol i'r arfer gan Fenks wrth i'r band orfod gwneud set acwstig gan fod eu drymiwr wedi anafu ei ysgwydd trwy neidio oddi ar y llwyfan (yn ôl ei arfer) mewn gig y noson flaenorol! Er y newidiadau munud olaf roedd hi'n set arbennig gan enillwyr y llynedd ac yn derfyn da i'r penwythnos a oedd yn flas o'r hyn sydd i ddod yn gigs y Gymdeithas yng Nghasnewydd!http://www.cymdeithas.com/steddfod2004