Papur Gwyn y BBC – peryglon i S4C medd ymgyrchwyr

Mae ymgyrchwyr iaith wedi rhybuddio y gallai'r newidiadau i'r BBC, a amlinellir ym mhapur gwyn Llywodraeth Prydain heddiw, fygwth annibyniaeth y darlledwr.  

Mae'r papur gwyn yn datgan bod hawl gan y BBC i leihau ei gyfraniad i S4C, ac yn cynnig cyd-leoli S4C a'r BBC, heb gyfeirio at y ffaith bod pencadlys S4C yn symud i Gaerfyrddin, a hynny ar wahân i'r BBC. Ym mis Gorffennaf 2015, er i'r Llywodraeth gydnabod y gallai'r BBC leihau cyllideb S4C, dywedant y byddai'n fater i'r Llywodraeth benderfynu "sut i dalu am y diffyg", ond dyw'r papur gwyn ddim yn ail-adrodd yr addewid hwnnw. 

Meddai Curon Wyn Davies, Cadeirydd Grŵp Digidol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:  

"Unwaith eto, mae peryg gwirioneddol y bydd penderfyniadau gan Lywodraeth Prydain sy'n niweidio'r Gymraeg - mae angen datganoli darlledu i Gymru. Mae'r cynigion yn awgrymu bygythiad pellach i annibyniaeth S4C. Yn wir, mae 'na beryg mawr y gallai hyn osod cynsail ar gyfer toriadau pellach i'r darlledwr, ac iddi gael ei draflyncu gan y BBC.  

"Rydyn ni'n cydnabod y bydd adolygiad o'r sianel yn 2017, ond mae nifer o elfennau o'r papur gwyn sy'n peri pryder. Mae wir yn bryder nad oes sôn am addewid y Llywodraeth na fyddai cwtogiad pellach i gyllideb S4C. Mae creu un bwrdd ar gyfer y BBC yn codi cwestiynau mawrion - sut allai'r penderfyniad am arian y ffi drwydded, ar gyfer ein hunig sianel deledu, gael ei gymryd yn annibynnol? Mae'n rhyfedd hefyd fod sôn am gyd-leoli S4C a'r BBC er bod pencadlys S4C yn symud i Gaerfyrddin." 

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi codi eu pryderon am y newidiadau strwythurol mewn llythyr at Ysgrifennydd Diwylliant Prydain ac Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns AS.