Rali ar y traeth i ddatgan argyfwng

Ymgasglodd 200 mewn rali ar draeth y Parrog heddiw (23/10) i alw ar y Llywodraeth i drin yr argyfwng tai fel argyfwng go iawn, nid dim ond cynnal ymgynghoriadau a thrafod y broblem.

Dywedodd Hedd Ladd-Lewis, un o'r trefnwyr:
"Fe benderfynais i drefnu rali yma yn Nhrefrdraeth am bod angen gwneud rhywbeth am y broblem tai. Ces i fy magu yn Nhrefdraeth ac mae'r dref wedi newid yn llwyr. Mae yna ofid dybryd am ddyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol wrth i brisiau tai amddifadu pobl leol o'r hawl a'r gallu i fyw yn eu cymunedau ac wrth i fwy o dai gael eu prynu fel ail dai ac AirBnBs.
"Mae yna fwy o dlodi rhent wrth i deuluoedd orfod talu rhent afresymol yn y sector breifat, a pha berson lleol gall fforddio talu £400,000 am dy teras? Felly beth fydd dyfodol yr ysgol gynradd? 'Yn ni wedi gweld beth sy' wedi digwydd yn Abersoch yn ddiweddar."

Ar gyfartaledd mae tŷ yn y sir yn £227,000, ond mae tai tair ystafell wely yn gwerthu am bron i £400,000 mewn ardaloedd fel Trefdraeth. Gan mai £26,466 yw cyflog cyfartalog y sir mae'n anodd iawn i bobl leol, a phobl ifanc yn enwedig, i brynu tŷ er mwyn byw yn lleol.

Un sydd wedi bod yn chwilio am gartref yn yr ardal lle magwyd hi yw Heledd Evans, o Drewyddel, bydd hi'n sôn yn y rali am ei phrofiad hi o'r farchnad dai yn lleol:
"Gyda chynnydd aruthrol ym mhrisiau tai eleni, mae dyfodol ieuenctid ein bro a gweddill Cefn Gwlad Cymru yn fwy ansicr nag erioed. Dim ieuenctid, dim dyfodol i'n cymunedau gwledig Cymreig."

Defnyddiodd Mabli Siriol, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, ei haraith i annog pobl i ddod i Gaerdydd i rali ar risiau'r Senedd ar y 13eg o Dachwedd. Dywedodd bod angen mynd â'r alwad i Gaerdydd.

Mwy o luniau'r rali yma

Mae mwy o wybodaeth am y rali yng Ngaherdydd yma