Mewn ymateb i benderfyniad Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi Cyngor Sir Gwynedd ar Ysgol Abersoch, dywedodd Ffred Ffransis ar ran Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:
"Mae Cymdeithas yr Iaith yn siomedig na lwyddodd y cynnig heddiw yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu Addysg i gyfeirio i'r Cyngor llawn y penderfyniad i gau Ysgol Abersoch, ond croesawn fod y mater wedi ei gyfeirio yn ôl at y Cabinet. Mae'n amlwg bellach na ellid rhuthro'r broses a chau'r ysgol erbyn y Nadolig. Felly mae'r Gymdeithas yn galw ar y Cabinet i ohirio penderfyniad terfynol tan y Pasg, a defnyddio'r chwe mis nesaf i drafod o ddifri y cynigion amgen cyffrous a gynigiwyd gan y llywodraethwyr. Gall y mater gael ei ruthro trwodd, neu gall hwn fod yn ddechrau proses o adfeddiannu cymunedau arfordirol Cymraeg."