Peryg y bydd cyngor yn “colli cyfle hanesyddol” i hybu’r iaith

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi gofyn i Gyngor Sir Caerfyrddin am eglurhad brys pam nad oes unrhyw beirianwaith mewn lle i weithredu strategaeth iaith newydd a fabwysiadwyd gan y Cyngor ddechrau mis Ebrill.

Esboniodd cadeirydd y Gymdeithas yn lleol, Sioned Elin:

“Mae’n debyg i bwyllgor newydd 'Panel Ymgynghorol y Gymraeg' gynnal ei gyfarfod cyntaf yr wythnos ddiwethaf, ond ni waned unrhyw gynydd o ran cynllun i weithredu’r starategaeth iaith, ac ni bydd yn cyfarfod eto tan ddiwedd Medi neu ddechrau Hydref. Erbyn hynny, bydd 5 mis llawn o ddiffyg gweithredu gan y Cyngor ers mabwysiadu’r strategaeth iaith newydd. Dyw’r Cyngor ddim yn dangos unrhyw arwydd o frys wrth wynebu’r argyfwng a amlygwyd yn ffigurau’r Cyfrifiad, ac mae peryg iddo golli cyfle hanesyddol i hybu’r iaith yn dilyn cytundeb traws-bleidiol."

“Yn waeth fyth, ymddengys fod y Cyngor wedi torri’n syth un o argymhellion allweddol yr adroddiad iaith a fabwysiadwyd ganddo trwy hysbysebu tu fewn a thu allan i Gymru swydd Cyfarwyddwr Gofal Cymdeithasol, Tai ac Iechyd heb unrhyw ofyniad i fedru gweithio’n Gymraeg."

Mae’r Gymdeithas wedi cysylltu â’r Cyngor am eglurhad ar frys a oes unrhyw fwriad o ddifri i weithredu strategaeth iaith newydd.

Mae'r Gymdeithas hefyd wedi trefnu cyfarfod o holl aelodau’r Gymdeithas yn y sir i benderfynu a ddylid troi’r parti ar faes y Steddfod yn Llanelli i ddathlu strategaeth iaith newydd yn hytrach yn brotest yn uned y Cyngor.

Bydd aelodau Cymdeithas yr Iaith yn cwrdd yn ystafell dop Tafarn y Queen's yng Nghaerfyrddin am 7pm nos Fercher y 9fed o Orffennaf. Mwy o wybodaeth - bethan@cymdeithas.org