Cynhaliwyd bicedi tu allan i Tesco Express Salisbury Road yng nghanol Cathays, Caerdydd a thu allan i Tesco Bangor heddiw. Roedd y digwyddiadau yma yn rhan o ddeufis o weithgaredd gan Gymdeithas yr Iaith yn erbyn Morrisons a Tesco i bwysleisio'r angen am Ddeddf Iaith Newydd gynhwysfawr. Bydd mwy o bicedi a phrotestiadau yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnosau nesaf.
Tesco yw un o'r cwmniau mwyaf sy'n masnachu yng Nghymru â mae nhw'ngwneud elw enfawr - bron i £3 biliwn llynedd - ac yn parhau i dyfu, gyda changhennau newydd yn agor ar hyd y wlad. Er hyn, tocenistiaeth yn unig yw eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg, gyda'r ddarpariaeth bitw hwnnw yn aml yn israddol ac yn wallus.Meddai Elain Llwyd, Cadeirydd Cell Prifysgol Caerdydd:"Yn ystod y misoedd diwethaf mae Cell Cymdeithas yr Iaith PrifysgolCaerdydd wedi bod yn arsylwi canghennau Tesco Cathays. Mewn holiadur darpariaeth Gymraeg o gangen Salisbury Road cafwyd cyfanswm o 3 allan o 100. Ni yw maint y gangen yn esgus am y diffyg darpariaeth Gymraeg. Nid oes arwyddion dwyieithog ar gyfyl y lle, a dyma un o'r camau hawsaf a symlaf i gwmni mawr fel Tesco i gymryd - mae gan siaradwyr Cymraeg hawl sylfaenol i ddefnyddio'r iaith ymhob agwedd o fywyd."Meddai Osian Jones, Swyddog Maes y Gymdeithas yn y Gogledd:"Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw ar Tesco i wella'u darpariaeth i gynnwys mwy na elfennau arwynebol e.e. arwyddion nad oes ond rhaid eucodi unwaith. Dylai cwmniau fel Tesco sicrhau bod eu harwyddion parhaol,arwyddion a thaflenni tymhorol, cyhoeddiadau uchelseinydd, pecynnu nwyddau eu hunain yn ddwyieithog, a'u bod yn cynnig hyfforddiant i'w gweithwyr er mwyn creu tîm o staff dwyieithog. Dangosa'r ddarpariaeth bresennol ddiffyg parch tuag at yr Iaith a'i siaradwyr."