Ple i ail-ystyried penderfyniad 'niweidiol' i gau clybiau ieuenctid Gwynedd

Mae ymgyrchwyr iaith wedi galw ar Gabinet Cyngor Gwynedd i oedi eu penderfyniad i gau clybiau ieuenctid Gwynedd am flwyddyn er mwyn ail-ystyried y cynllun, gan rybuddio bod y penderfyniad yn 'yn niweidiol i les pobl ifanc a'u dyfodol, ac i'r iaith Gymraeg fel iaith gymunedol'. 


Fe wnaeth cabinet y cyngor sir benderfyniad wythnos ddiwethaf i gau pob un o'r 39 clwb ieuenctid erbyn Y Pasg eleni, a chael un clwb fyddai'n gwasanaethu'r sir gyfan yn eu lle.

Mewn llythyr at gynghorwyr Gwynedd, mae aelodau Cymdeithas yr Iaith yng Ngwynedd yn dweud:  

"Rydym yn galw arnoch i oedi am flwyddyn ar eich penderfyniad i gau clybiau ieuenctid Gwynedd. Galwn arnoch i gadw'r gwasanaeth fel y mae ar hyn o bryd a defnyddio'r flwyddyn nesaf i siarad â'r ieuenctid sydd yn y clybiau, yr arweinwyr a chymunedau Gwynedd er mwyn dod o hyd i gynllun a fydd yn gynaliadwy ac yn diogelu lles pobl ifanc y sir.  


"Credwn fod y model newydd a ddewiswyd gan y Cabinet yn wrth-gymdeithasol, yn niweidiol i les pobl ifanc a'u dyfodol, ac i'r iaith Gymraeg fel iaith gymunedol. Erfyniwn arnoch i wrando ar leisiau cymunedau Gwynedd sydd wedi ymateb yn chwyrn i'ch penderfyniad i gwtogi gwariant yn y maes hwn oherwydd agenda lymder Llywodraeth San Steffan, maes sydd wedi gorfod derbyn cwtogi sylweddol yn barod. 

"Mae'r clybiau ieuenctid, a mudiadau eraill sy'n derbyn nawdd fel y Ffermwyr Ifanc a'r Urdd yn cyfrannu'n helaeth i fywydau pobl ifanc ac yn cryfhau cymdeithas wrth feithrin dinasyddion yn eu cymunedau eu hunain. Galwn arnoch felly i oedi'r penderfyniad yn syth, heb effeithio'r clybiau fel maent ar hyn o bryd, a dechrau sgwrs newydd am ddyfodol y Gwasanaeth Ieuenctid."