Yn dilyn y bleidlais agos yn y Cyngor Llawn (17-14) wythnos diwethaf ynghylch y bwriad i gau holl ysgolion ardal Llandysul a sefydlu un ysgol i oedran 3-19. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi gwneud ple olaf i aelodau cabinet Cyngor Sir Ceredigion cyn eu cyfarfod yfory (Mawrth 6/7).Fe alwodd y pwyllgor craffu addysg dydd Llun diwethaf ar y cabinet i ystyried alternatifs ar gyfer ardal Llandysul.
Yn y neges at yr aelodau dywed Angharad Clwyd, trefnydd Dyfed Cymdeithas yr Iaith a rhiant yn ysgol gynradd Llandysul:"Dyma'r cyfle olaf i gael cefnogaeth unedig ar gyfer y cais am arian i gael safle newydd ar gyfer Ysgol Dyffryn Teifi. Gall pob un ohonom uno y tu ôl i gais ar gyfer ysgol newydd gyda 900 o ddisgyblion uwchradd mewn ffederasiwn â'r ysgolion cynradd cyfagos gyda'u disgyblion yngallu ddefnyddio cyfleusterau y safle newydd. Mae'n gwbl bosibl y gallai 900 o ddisgyblion grwp oedran 11-19 cael eu denu i'r ysgol newydd, gan ar hyn o bryd dim ond 45% o ddisgyblion uwchradd yr ardal sydd yn dewis addysg ddwyieithog ac yn mynd i Ddyffryn Teifi, lle mae70% yn gwneud yng Nghwm Gwendraeth. Fe gellir ddenu o leiaf 200 o ddisgyblion ychwanegol fel hyn yn ogystal â degau o ddisgyblion sydd ar hyn o bryd yn mynd i Goleg Sir Gâr.Fe fyddai'r alternatif yma yn golygu y gallwn gael y gorau o bob byd. Dyma'n cyfle olaf i gael undod y tu ôl i'r cais. Mae'r rhwyg sydd yn bodoli ar hyn o bryd a'r drwg deimlad a achosir oherwydd fod rhieni yn cael eu hanwybyddu yn tanseilio Ysgol Dyffryn Teifi ei hunan a'r cais am gyllid. Gadewch i ni ddal gafael ar y cyfle olaf yma am undod."Campaigners' last bid to fight plans for super school - Carmarthen Journal, 07/07/10