Cynhaliodd Cymdeithas yr Iaith brotest ar gopa'r Wyddfa heddiw (Dydd Mercher, 14eg Gorffennaf) mewn ple funud olaf at Gynghorwyr Gwynedd o flaen bleidlais dyngedfennol ar ddyfodol Ysgol Parc, Y Bala .Daeth criw o blant Ysgol Ysbyty Ifan i ymuno ag aelodau'r Gymdeithas ar y copa i dystio i bwysigrwydd eu hysgol nhw ac i ddatgan cefnogaeth i'r Parc. Aeth y Daith wedyn lawr llethrau'r Wyddfa ac ymlaen i Ddyffryn Nantlle heno gan gynnal cyfarfod pellach tu allan i Ysgol Baladeulyn.
Bydd plant a chefnogwyr Ysgol y Parc ger y Bala yn gorymdeithio i mewn i Gaernarfon gydag aelodau'r Gymdeithas ar gyfer rali o flaen y cyngor yfory (12.30pm, Dydd Iau, 15fed Gorffennaf). Ar y dydd, bydd cynghorwyr yn trafod cau 'r ysgol mewn cyfarfod y cyngor llawn.Dywedodd llefarydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar addysg, Ffred Ffransis, wrth gefnogwyr ar y copa:"Rydyn ni wedi dod i ben yr Wyddfa ar y daith o Dryweryn i Gaernarfon yn lle gwneud dargyfeiriad er mwyn dangos fod gyda ni fynydd i'w ddringo wrth geisio perswadio cynghorwyr i bleidleisio dros arbed Ysgol y Parc. Ein ple ni o'r copa yw i gynghorwyr sylweddoli mai arwydd o gryfder, nid o wendid, yw parodrwydd i wrando ar lais y bobl, i wrando ar yr achos cryf a wnaed fod Ysgol y Parc yn cynnig addysg wych ac yn hanfodol i gymuned Gymraeg bywiog, i wrando ar hyn oll ac i fod yn barod i ymateb. Rhaid i bobl deimlo fod Awdurdodau'n gwrando ar eu lleisiau neu bydd dadrith a chwerwder."