Ple personol eisteddfodwyr i ddileu addysgu'r Gymraeg fel ail iaith

Cafodd tystiolaeth ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru gan ymgyrchwyr sydd am weld 'addysg Gymraeg i bawb' ar faes Eisteddfod yr Urdd, wedi i'r Prif Weinidog awgrymu bod newid ym mholisi ei weinyddiaeth ar y gorwel. 
 
Fe wnaeth Aelod Cynulliad Llanelli Keith Davies, Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Cynulliad ar y Gymraeg, ymuno ag aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg i gyflwyno eu llyfr "Welsh Not 21" sy'n cynnwys straeon gan bobl ar y maes am y rhwystrau rhag cael y gallu i gyfathrebu a gweithio drwy'r Gymraeg. Un o'r straeon yw hanes personol menyw o'r enw Dilys, 85 mlwydd oed o ardal Maesteg, a soniodd am yr awr yr wythnos o wersi Cymraeg a gafodd hi yn ôl yn 1930au, gan ddweud ei bod hi wedi cael ei hamddifadu o'r iaith. 
 
Daw'r cyflwyniad wedi i'r Prif Weinidog awgrymu y gallai fod symud pellach ym mholisi'r Llywodraeth. Yn siarad ar Radio Cymru'r wythnos yma, dywedodd: "... dyn ni ddim, ar ôl 20 mlynedd o gael y Gymraeg yn orfodol mewn ysgolion, wedi creu siaradwyr hyderus Cymraeg ... mae rhaid i fi sicrhau [ein bod yn] ystyried ym mha ffordd allwn ni newid y drefn fel bod pobl yn gweld y Gymraeg fel sgil...". Fe ddaeth sylwadau'r Prif Weinidog wedi i nifer o arbenigwyr addysg, gan gynnwys yr Athro Ieitheg David Crystal, gefnogi ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros 'addysg Gymraeg i bawb', gan erfyn ar y Llywodraeth dderbyn argymhellion yr Athro Sioned Davies ar y mater.   
 
Wrth ymateb i'r datblygiadau, meddai Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:   
 
"Mae cefnogaeth i'r ymgyrch ar faes yr Eisteddfod a'r tu hwnt yn syfrdanol. Mae ewyllys pobl Cymru i weld pawb yn y wlad yn gallu cyfathrebu a gweithio yn Gymraeg yn gryf ac yn glir.   
 
"Mae adroddiadau’r llywodraeth yn gytûn, mae’r system ‘ail iaith’ wedi methu. Mae oddeutu 79% o’n pobol ifanc yn gadael y system addysg heb y gallu i siarad a defnyddio’r Gymraeg yn hyderus. Er gwaethaf ymdrechion clodwiw rhai unigolionnid yw’r system eilradd yma wedi arwain at Gymru ddwyieithog lle all pawb ddewis byw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg.   
 
"Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Cymdeithas yr Iaith wedi blaenoriaethu’r ymgyrch i sicrhau ‘Addysg Gymraeg i Bawb’ a dileu’r cysyniad o ‘Gymraeg ail iaith’. Mae’r term ‘ail iaith’ yn un sarhaus. Term sy'n awgrymu rhywbeth eilradd ac anghyflawn. Un iaith Gymraeg sydd, a dylai pawb yng Nghymru gael mynediad i’r iaith honno drwy ein system addysg. Does dim diben ceisio trwsio system sydd ddim yn gweithio:  mae adroddiad yr Athro Sioned Davies, a gomisiynwyd gan y Llywodraeth, yn galw am ddiddymu’r cysyniad o ‘Gymraeg ail iaith’ a sefydlu continwwm iaith fydd yn gallu sicrhau rhuglder pob un plentyn. Dyna beth sydd ei angen.