Mae ymgyrchwyr gwrth niwclear yn rhybuddio bod cyhoeddiad am Borthladd Rhydd newydd ar Ynys Môn yr wythnos hon yn ffordd i mewn ar gyfer datblygiadau niwclear newydd diangen ar yr ynys, gydag o leiaf chwech o gefnogwyr y cais â chysylltiadau uniongyrchol â'r diwydiant.
Wedi'i enwi ymysg noddwyr cais y Porthladd Rhydd mae busnesau diwydiant niwclear blaenllaw, Assystem, Bechtel, Last Energy, Molten Flex N, Rolls-Royce SMR, a New Cleo, pob un ohonynt yn ceisio datblygu a lleoli gorsafoedd pŵer niwclear newydd ar safle Wylfa ar yr ynys a mannau eraill yn y DU.
Mae'r cyfan yn cystadlu am sylw'r cyhoedd a chronfeydd cyhoeddus drwy gyhoeddi datganiadau i'r cyfryngau sy'n aml yn gwneud honiadau carlamus eu bod ar fin cyflwyno cynnyrch ledled y DU. Eto i gyd, mae eu dyluniadau gorsafoedd pŵer niwclear a elwir yn Adweithyddion Modiwlaidd bach (hyd yn hyn) heb eu profi, heb awdurdod, ac heb eu hadeiladu.
Mae aelodau eraill o'r consortia Freeport yn cynnwys Prifysgol Bangor, â'i Sefydliad Dyfodol Niwclear; M-Sparc, â'i gysylltiadau ag adran niwclear y Brifysgol; a Chymdeithas Cynghorau Gogledd a Chanolbarth Cymru, sy'n cynnwys Cynghorau Ynys Môn a Gwynedd sydd wedi bod yn barod eu cefnogaeth i ynni niwclear.
Cyfarfu chwech grŵp gwrth-niwclear Cymreig – CADNO, CND Cymru, Cymdeithas yr iaith, PAWB (Pobl Atal Wylfa B / People against Wylfa-B), WANA (Cynghrair Wrth-Niwclear Cymru) a'r NFLA Cymreig (Awdurdodau Lleol Di-niwclear) yng Nghaernarfon, Gwynedd ym mis Gorffennaf 2022, gan lofnodi Datganiad yn addo eu gwrthwynebiad i bwerdai niwclear newydd ac i ymladd dros ddyfodol gwyrdd a chynaliadwy i Gymru.
Mae'r ymgyrchwyr gwrth-niwclear Cymreig hyn yn poeni am ddiffyg tryloywder ac ymgysylltu â'r cyhoedd am gyfranogiad helaeth chwaraewyr niwclear yn y cais Porthladd Rhydd ac maent yn siomedig ofnadwy, ar wahân i un busnes ynni morol, nad oes cynhyrchwyr ynni gwyrdd mwy gwirioneddol yn y gymysgedd.
Mae adroddiad diweddar y Panel Rhyngwladol ar Newid Hinsawdd yn tynnu sylw at frys y camau sydd eu hangen 'i atal colledion a niwed o newid hinsawdd, yn aml y tu hwnt i allu ein (a'n planed') i addasu'. Mae'r adroddiad yn dangos yn glir mai'r llwybr rhataf a chyflymaf i liniaru effeithiau newid hinsawdd yw trwy fabwysiadu technolegau ynni adnewyddadwy, mesurau effeithlonrwydd ynni, rheoli ochr y galw (i leihau'r galw am ynni) a gostyngiad mewn allyriadau methan.
Dim ond cyfeiriad arwynebol a damniol sydd at bŵer niwclear mewn graff sy'n darlunio ei draul gymharol a'i ddiffyg effaith ddefnyddiol.
Felly, er y gallai'r cyhoeddiad cychwynnol fod wedi ymddangos yn ddigalon, yn sgil adroddiad yr IPCC, mae gweithredwyr gwrth-niwclear yn arfogi eu hunain ar gyfer ymgyrch barhaol i wneud porthladd rhydd newydd Môn yn wirioneddol 'Wyrdd'.
Mewn ymateb i'r newyddion, dywedodd Linda Rogers o CND Cymru:
"Er bod awdurdod rhyngwladol blaenllaw'r byd yn nodi'n glir mai'r ffordd i sicrhau byd cynaliadwy yw trwy ddulliau adnewyddadwy a'r cyfoeth o adnoddau ynni adnewyddadwy sydd ar gael i ni, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fwydo'r diwydiant pŵer niwclear costus a pheryglus, â'n harian, gan wneud cytundebau y tu ôl i ddrysau caeëdig â Llywodraeth Prydain a rhoi ein dyfodol yn y fantol. A'r cyfan i sybsideiddio'r diwydiant arfau niwclear. Does gan hyn ddim i'w wneud ag unrhyw beth "gwyrdd".
Ar ran Cymdeithas yr Iaith, dywedodd y cadeirydd presennol Robat Idris:
"Mae niwclear yn cynrychioli bygythiad dirfodol nid yn unig i fywyd dynol ar sawl lefel, ond hefyd i fodolaeth y Gymraeg a'i chymunedau cefnogol yn ei chadarnleoedd yn yr ardaloedd helaeth sy'n amgylchynu'r safleoedd yn Wylfa a Thrawsfynydd. Ni all fod cyfiawnhad, mewn ardal â digonedd o ffynonellau o ynni naturiol, i osod diwydiant echdynnol, gwenwynig gydag etifeddiaeth ddi-ben-draw o wastraff."
Ar gyfer Awdurdodau Lleol Rhydd Cymru, ychwanegodd yr Ysgrifennydd Richard Outram:
"Gyda'r potensial i bweru Cymru â thechnolegau gwynt, hydro, solar, llanw a thonnau'r môr, y rhan fwyaf ohonynt ar gael nawr neu wedi'u datblygu i raddau helaeth, gallai'r Porthladd Rhydd fod wedi cynrychioli cyfle go iawn i greu canolfan ynni adnewyddadwy o ragoriaeth ar yr Ynys Ynni fel y caiff ei hadnabod. Yn anffodus, mae'n edrych fel petai'r rhan fwyaf o'r gwahoddiadau i'r parti wedi mynd i bwysigion y diwydiant niwclear, yn hytrach na chynhyrchwyr ynni gwirioneddol wyrdd."
Ailddatganodd Cymdeithas yr iaith ei gwrthwynebiad i adeiladu adweithyddion niwclear ar dir Cymru yn ei Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn 2011, 2014 a 2016.
Mae Cymdeithas o'r farn bod cysylltiad agos iawn rhwng ynni niwclear ac arfau niwclear ac yn fygythiad mawr i ddyfodol ein planed. Mae'r ddau safle niwclear yng Nghymru yn digwydd bod yn y ddwy sir sydd â'r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Byddai cynlluniau niwclear newydd yn Nhrawsfynydd neu Wylfa yn fygythiad uniongyrchol i barhad y Gymraeg fel yr iaith gymunedol fwyafrifol yng Ngwynedd ac Ynys Môn.