Y Torïaid yn dangos eu bod ar ochr y rhai sydd ar eu hennill o dan y system tai presennol

Mae'r Torïaid wedi dangos eu bod ar ochr y rhai sydd ar eu hennill o dan y drefn bresennol trwy gyflwyno dadl yn y Senedd heddiw (dydd Mercher 06/07) i'w gwneud yn anos rheoleiddio llety gwyliau ac ail gartrefi ac yn haws i berchnogion ail dai osgoi talu treth ar ail dŷ.

Cyn y ddadl mae aelodau Cymdeithas yr Iaith wedi gosod posteri ar swyddfeydd y Torïaid yn Hwlffordd, Arberth, Llandudno ac Ynys Môn yn galw am Ddeddf Eiddo ac yn hysbysebu protest dros Deddf eiddo ar faes yr Eisteddfod

Yn siarad ar ran ymgyrch Nid yw Cymru ar Werth dywedodd Osian Jones:
"Mae cyflwyno dadl yn y Senedd heddiw yn dangos na bydd y rhai sydd yn elwa o'r drefn fel mae hi yn ildio heb frwydr. Rhaid i ni wneud safiad ar ran pawb sydd am gael hyd i gartrefi yn eu cymunedau.
"Byddwn ni'n parhau â'r frwydr ar faes yr Eisteddfod trwy gynnal rali i bwyso ar y Llywodraeth am Ddeddf Eiddo gynhwysfawr."

Yn gynharach eleni cyflwynwyd rheolau newydd sy'n golygu bod yn rhaid i dŷ gwyliau fod ar gael i'w rentu am o leiaf 252 diwrnod y flwyddyn er mwyn osgoi talu treth ail dŷ.
Bydd y Ceidwadwyr yn cyflwyno dadl i ddirymu'r rheol honno.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am Ddeddf Eiddo fydd yn:
1) Sicrhau'r hawl i gartre'n lleol
2) Cynllunio ar gyfer anghenion lleol
3) Grymuso cymunedau
4) Blaenoriaethu pobl leol
5) Rheoli sector rhentu
6) Sicrhau cartrefi cynaliadwy
7) Buddsoddi mewn cymunedau