Prif Swyddog yn dangos cefnogaeth i brotest dai Caernarfon

deddf_eiddo.gif Heddiw bu deuddeg o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn protestio y tu allan i adeilad Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng Nghaernatfon. Cynhaliwyd piced am ddwyawr y tu allan i’r adeilad er mwyn tynnu sylw at y broblem dai yn y cymunedau.

Dywedodd Dafydd Tudur, un o arweinwyr y brotest:“Ein bwriad oedd rhoi pwysau ar lywodraeth Cymru i gymryd camau pendant i sicrhau fod pobl yn cael mynediad i’r farchnad dai yn eu cymuned leol. Galwn ar i’r llywodraeth rhyddhau’r arian digonnol ar gyfer y Cynllun Cymorth Prynu fel bod pobl leol yn gallu byw yn eu cymunedau.”Oherwydd y brotest fe ysgrifennodd Howard Lloyd y prif swyddog yn swyddfa’r Cynulliad yng Nghaernarfon lythyr at John Bader Cyfarwyddwr yr adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio yn y Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd yn tynnu sylw at ofynion Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal protestiadau pellach yn yr ymgyrch hon y tu allan i swyddfeydd llywodraeth Cymru Yng Nghaerfyrddin a Llandrillo.Pwyswch ar y ddolen i fynd i adran Ymgyrch Cymunedau Rhydd o'r wefan