Achosodd protestwyr iaith oedi i lansiad swyddogol canolfan celfyddydau newydd gan y Prif Weinidog ym Mhrifysgol Bangor heddiw (Dydd Gwener, Ionawr 21).Fe ddaeth tua 16 o brotestwyr ynghyd gyda phosteri yn dweud "Ble mae'r Gymraeg?", "Pontio, fflop i'r gymuned a'r Gymraeg", ac "A fo ben bid fflop" gan lwyddo i atal y seremoni lansio swyddogol rhag mynd yn ei flaen am tua 20 munud.Mae'r ganolfan Pontio ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn tua £30 miliwn o arian cyhoeddus, ond nid yw'r rhan fwyaf o swyddi hyd yn hyn wedi gofyn am sgiliau Cymraeg er fod dros 70% o boblogaeth Gwynedd yn siarad yr iaith. Roedd yr hen Theatr Gwynedd, sydd bellach wedi cau, yn cael ei weinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg.Yn ôl y cylchgrawn Golwg, mae pwyllgor dwyieithrwydd y Brifysgol wedi cwyno'n fewnol am y sefyllfa ac mae Bwrdd yr Iaith yn ymchwilio i g?yn am y mater. Fe ddywedodd Menna Machreth llefarydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, sydd hefyd yn fyfyrwraig PhD ym Mhrifysgol Bangor:"Ni chawsom atebion heddiw am sefyllfa hollol warthus y Gymraeg yn y Brifysgol a'r prosiect Pontio. Mae angen adolygiad llawn o sut mae hyn wedi digwydd."Yn agoriad swyddogol y prosiect heddiw, fe ddylai'r prif Weinidog fod wedi condemnio'r Brifysgol am niweidio'r Gymraeg yn lleol. Mae'r prosiect wedi derbyn llwyth o arian cyhoeddus, ond mae'r Brifysgol yn anwybyddu ei dyletswyddau i'r gymuned leol unwaith eto. Ein disgwyliadau ni yw y byddai'r lle yn gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg o ddydd i ddydd. Dyma un o amcanion y Strategaeth Iaith Gymraeg genedlaethol; ydi'r Llywodraeth o ddifrif am weinyddu trwy'r Gymraeg os nad ydyn nhw'n hybu hynny mewn lle amlwg fel Prifysgol Bangor?'"Pwy sy'n gyfrifol am wneud y penderfyniadau hyn? Mae'n gwbl groes i gynllun iaith y Brifysgol a strategaeth iaith Llywodraeth Cymru. Mae'r Brifysgol yn anwybyddu barn ei phwyllgor dwyieithog ei hunan. Yr eironi ydy mai rhan o bwrpas y prosiect hwn yw adfywio'r gymuned, ond mi fydd y prosiect yn tanseilio'r gymuned yn ieithyddol. Mae polisi dwyieithog y coleg yn hollol arwynebol. Os byddant yn parhau i ddilyn y llwybr hwn, fydd bron neb yn siarad yr iaith Gymraeg yn y brifysgol nac ym Mangor chwaith."Pwyswch yma i lawrlwytho copi o'r llythyr a gyflwynwyd i Carwyn Jones yn ystod y brotest, gyda disgwyliadau Cymdeithas yr Iaith (pdf)Protest yn amharu ar lansiad swyddogol Pontio - Golwg360 - 21/01/2011Canolfan: 'Hyd at 900 o swyddi' - BBC Cymru - 21/01/2011Language protest disrupts Bangor arts centre launch - Daily Post - 21/01/2011Bangor Pontio arts centre 'to create hundreds of jobs' - BBC Wales - 21/01/2011