Prif Weithredwr yn camarwain ynghylch dyfodol ysgol?

Mark JamesMae Cymdeithas yr Iaith a rhieni ysgol Mynyddcerrig yn mynnu esboniad gan Brif Weithredwr Cyngor Sir Gâr, Mark James am y sylwadau a wnaeth ar ddiwedd cyfarfod o'r Bwrdd Gweithredol ar yr 20ed o Fedi.

Dywedodd mai'r rheswm na fu unrhyw drafod o gwbwl ynghylch priodoldeb cyhoeddi rhybudd statudol i gau'r ysgol gan y Bwrdd Gweithredol yn y cyfarfod hwnnw oedd oherwydd y buasai'r mater yn gorfod cael ei drafod yn drwyadl mewn cyfarfod o'r Cyngor Llawn cyn dod at unrhyw benderfyniad terfynol.Cysylltom ag Ann MacGregor o'r adran Rheolaeth Ysgolion, Llywodraeth y Cynulliad gan ein bod yn amheus o'r hyn a ddywedodd y Prif Weithredwr. Yn ôl ei hymateb hi, nid yw'n arferol i'r cynnig i gau ysgol fynd yn ôl at y Cyngor Llawn i'w ystyried ar ddiwedd y cyfnod ar gyfer gwrthwynebiadau.Dywed ymhellach y byddai person yn disgwyl y byddai'r Cyngor wedi cymeryd i ystyriaeth unrhyw farn wrthwynebus adeg y cyfnod ymgynghori ac wedi pwyso a mesur y dadleuon o blaid ac yn erbyn y cynnig cyn cyhoeddi'r rhybudd statudol i gau'r ysgol. (gwelir ei hebost yn llawn ar ddiwedd y datganiad). Yn ein llythyr at Mark James dywedwn:"Mae'n ymddangos felly mai y cyfarfod hwn o'r Bwrdd Gweithredol ar yr 20fed o Fedi oedd yr unig gyfle i drafod y Rhybudd Statudol i gau ysgol Mynyddcerrig ac mae'n anhygoel nad oedd y Bwrdd Gweithredol yn credu ei fod yn werth hyd yn oed un munud o drafodaeth"."Ydych chi'n fodlon cydnabod nawr i chi ein camarwain ni, ac yn wir y Cynghorwyr ar y pwynt yma? A wnewch chi hefyd gadarnhau na fydd y mater yn cael ei drafod yng nghyfarfod llawn o'r Cyngor ar y 13eg o Ragfyr."Arwyddwyd y llythyr gan:Angharad Clwyd - Swyddog Maes Dyfed - Cymdeithas yr IaithMr Matt Dix: Rhiant/Llywodraethwr Ysgol MynyddcerrigDr Tony Mathews: Rhiant Ysgol MynyddcerrigMr John Griffiths: Rhiant Ysgol Mynyddcerrig