Wrth i Gyngor Powys gynllunio i aildrefnu addysg yn ardal Llanfair Caereinion a Llanfyllin/Gogledd y Trallwng mae Tegwen Bruce-Deans, Prifardd Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr eleni, yn dweud ei bod hi am weld mwy o blant ym Mhowys yn derbyn yr un cyfleoedd ag y cafodd hi trwy addysg cyfrwng Cymraeg.
Dywedodd Tegwen:
“Dwi wedi profi cymaint mae addysg cyfrwng Cymraeg yn gallu cyfoethogi bywyd rhywun, ac mae'n siom enfawr ac yn anghyfiawn nad oes gan mwy o blant ym Mhowys y fraint werthfawr honno yr oeddwn i'n ffodus o'i chael.
"Er cael fy magu mewn ardal weddol di-Gymraeg, ges i'r fraint o dderbyn rhan helaeth o fy addysg trwy gyfrwng y Gymraeg ac wedi derbyn cyfleoedd di-ben-draw o ganlyniad; nid yn unig cyfleoedd addysg bellach a gyrfaol, ond profiadau o deithio, cymdeithasu a trochi o fewn ein diwylliant cyfoethog ni.”
Nod cyfarfod agored “Dyfodol Addysg Gymraeg ym Maldwyn” yw trafod cynyddu addysg cyfrwng Cymraeg ym Maldwyn a sut i bwyso ar Gyngor Powys i symud ei hysgolion ar hyd y continwwm iaith, yn ogystal â chynyddu darpariaeth ysgolion meithrin Cymraeg a chanolfannau trochi iaith y sir.
Bydd Pete Roberts, aelod cabinet Cyngor Powys â chyfrifoldeb dros addysg a swyddogion adran addysg y cyngor yn bresennol yn y cyfarfod.
Dywedodd Toni Schiavone, Is-gadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:
"Mae'n amserol bod y cyfarfod agored yn cael ei gynnal wrth i Gyngor Powys gyhoeddi cynllunio i newid trefn ysgolion y sir. Rydyn ni'n croesawu'r bwriad i ddechrau symud ysgol Bro Caereinion ar hyd y continwwm at fod yn ysgolion Cymraeg. Mae'n bryder er hynny bod bwriad i gau ysgolion yn ardal Llanfyllin a Gogledd y Trallwng, does prin dim sôn am gynyddu darpariaeth Gymraeg. Felly mae posibl y bydd cymunedau yn colli ysgol, a phlant yn parhau i gael eu hamddifadu o’r gallu i siarad Cymraeg yn rhugl a chyfleoedd pellach yn y dyfodol yn sgil hynny.
"Mae angen i Bowys, fel pob sir arall osod nod o sicrhau bod pob disgybl yn gadael yr ysgol yn rhugl yn y Gymraeg , yn hyderus ac yn awyddus i siarad Cymraeg. Y ffordd fwyaf effeithiol o wneud hynny yw trwy addysg cyfrwng Cymraeg. Y prif wahaniaeth rhwng y plant sy'n gadael ysgolion cyfrwng Cymraeg a'r rhai sy'n mynychu ysgolion cyfrwng Saesneg yw bod pobl ifanc o ysgolion cyfrwng Cymraeg yn rhugl yn y Gymraeg yn ogystal a'r Saesneg.
"Er mwyn cyrraedd y nod yw'r rhaid cael strategaeth uchelgeisiol i symud yr ysgolion ar hyd continwwm i ddod yn ysgolion Cymraeg dros gyfnod o amser."
Mae’r cyfarfod agored yn rhan o'n hymgyrch ehangach i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn pasio Deddf Addysg Gymraeg i Bawb yn nhymor y Senedd hwn, fyddai’n gosod nod statudol bod pob plentyn yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050.
Mae gwybodaeth bellach am gynlluniau Cyngor Powys aildrefnu addysg yn ardaloedd Llanfair Caereinion a Llanfyllin/Gogledd Y Trallwng i’w gweld yma (dan eitemau 6 a 7) - https://powys.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=800&MId=7460