Prifysgol Aberystwyth yn 'anwybyddu anghenion y gymuned'

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i benderfyniad Prifysgol Aberystwyth i benodi Is-ganghellor newydd sydd yn ddi-Gymraeg.Fe ddywedodd Ffred Ffransis, llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae rhaid ei bod yn ddydd Ffwl Ebrill heddiw. Yn anffodus, mae prifysgolion yn fwy nag erioed, ym Mangor yn ogystal ag yn Aberystwyth yn ceisio cystadlu yn y farchnad rydd hytrach na chanolbwyntio ar ddarparu addysg sydd yn ymateb i anghenion y gymuned leol a Chymru gyfan."Rydym am weld sefydliadau, yn enwedig rhai megis Prifysgol Aberystwyth, yn gweinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg - dyna ddylai fod maen prawf unrhyw bolisi iaith. Gyda hynny fel y nod, mae'n hanfodol bod is-ganghellorion yn rhugl yn y Gymraeg ac wedyn byddai problem fel hyn ddim yn codi."