Prosiect y Filltir Sgwar – Peanuts yn unig!

cyngor_sir_caerfyrddin.JPG Heddiw mi fydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnig 'peanuts' i fynychwyr cyfarfod Prosiect y Filltir Sgwar a gynhelir gan Cyngor Sir Caerfyrddin. Nôd y prosiect hwn ydy "Adeiladu ar adnoddau lleol presennol a galluoedd i gyfrannu at ddatblygiad economaidd ac adfywio Sir Gaerfyrddin i hybu pobl i aros yn yr ardal neu i ddychwelyd adref.

Cefnogi integreiddio mewnfudwyr i gymunedau sydd eisioes yn bodoli. Adnabod ac adeiladu galluoedd o fewn Sir Gaerfyrddin wledig."Tra bod y Gymdeithas yn cefnogi mentrau tebyg i 'Brosiect y Filltir Sgwar' ac yn ei gweld fel cyfraniad pwysig, mae’n hollol amlwg fod nifer o bolisiau a phenderfyniadau eraill gan y Cyngor yn tanseilio bywyd ein cymunedau. Mae’r Gymdeithas felly yn gweld y prosiect hwn fel 'peanuts' yn unig, o'i gymharu â’r hyn sydd wir angen i sicrhau ffyniant y Gymraeg yn y Sir.Mae'r Gymdeithas yn cynnig, yn ogystal â sicrhau llwyddiant "Prosiect y Filltir Sgwar", fod y Cyngor yn:

  • Taflu'r Cynllun Datblygu Unedol sy'n argymell codi 12,000 o dai gan ei fod yn hybu mewnlifiad; gormod i allu integreiddio mewnfudwyr i gymunedau sydd eisioes yn bodoli. Bydd hyn yn sicr yn newid holl natur y cymunedau hyn.
  • Cynnal ymchwil gofalus ar angen lleol i sicrhau tai pwrpasol o fewn pris cyrhaeddadwy ar gyfer galluogi pobl i aros yn eu cymunedau. Dylid alw am swm realistig o arian wrth Lywodraeth y Cynulliad ar gyfer y cynllun "Cymorth i Brynu".
  • ac yn:
  • Taflu’r Cynllun Trefniadaeth Ysgolion sy’n peryglu pob ysgol sydd â dan 90 o blant – cynllun sy’n methu ag adeiladu ar alluoedd o fewn Sir Gaerfyrddin wledig.
  • Creu cynllun sy'n hybu a gwneud defnydd llawn o'n hysgolion pentrefol ac yn eu defnyddio er mwyn creu cymunedau sy'n lefydd bywiog i fyw ynddynt.