Am 2 o'r gloch Dydd Sadwrn Ionawr 27ain ger y cloc ym Mangor fe fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal y ddiweddaraf mewn cyfres o brotestiadau dros Ddeddf Iaith Newydd.Y siaradwyr yn y Rali fydd Steffan Cravos (Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg), Bethan Williams (Cadeirydd Cell Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor) a Hywel Williams AS (Aelod Seneddol Arfon a llefarydd Plaid Cymru ar yr iaith Gymraeg yn Nhy'r Cyffredin).
Bydd y Gymdeithas yn defnyddio'r brotest i dynnu sylw i’r ffaith fod angen i unrhyw Ddeddf Iaith Newydd gynnwys y sector breifat.Hon fydd y brotest olaf a drefnir gan y Gymdeithas cyn cyflwyno deiseb i Lywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol ac arni filoedd o enwau yn galw am Ddeddf Iaith Newydd. Gwneir y cyflwyniad hwn yn Senedd Cymru ar ddydd Mercher Chwefror 7ed ac mae Alun Pugh wedi cael gwahoddiad i dderbyn y ddeiseb ar ran Llywodraeth y Cynulliad.Mae'r brotest hon hefyd yn cael ei threfnu wrth i'r cyfnod o ymgynghori ar ddrafft Fesur Deddf Iaith y Gymdeithas ddod i ben. Mae nifer o sefydliadau ac unigolion wedi cynnig sylwadau ar y drafft fesur gan gynnwys Yr Arglwydd Gwilym Prys Davies, Yr Arglwydd Elystan Morgan, y cyn Archdderwydd Robyn Lewis, Wyn Hobson, Cwmni Iaith a Bwrdd yr IaithGymraeg.Ar sail yr ymatebion hyn bydd y Gymdeithas yn llunio mesur diwygiedig a gyflwynir i Gyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar Fawrth 10ed.