Protest i roi’r angen am Ddeddf Iaith ar ben yr agenda wleidyddol.

Heddiw, Ddydd Mawrth, Awst yr ail, am ddau o’r gloch, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal protest ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol er mwyn rhoi’r angen am Ddeddf Iaith ar ben yr agenda wleidyddol. Fe fydd y brotest yn dechrau gyda Elin Jones, Aelod Cynulliad dros Geredigion yn annerch y tu allan i stondin Cymdeithas yr Iaith.

“Cafodd galwad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg am Ddeddf Iaith Newydd hwb ychwanegol ddoe pan ddatganodd yr Arglwydd Gwilym Prys Davies ei gefnogaeth i’r angen am Ddeddf Iaith,” dywedodd Catrin Dafydd, Cadeirydd y Grwp Deddf Iaith.Dywedodd Steffan Cravos, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg,“Trwy ymprydio am wythnos ar faes yr Eisteddfod mae Ffred Ffransis hefyd yn tynnu sylw at yr angen am Ddeddf Iaith Newydd gynhwysfawr a fydd yn rhoi statws swyddogol i’r Gymraeg, ac yn sicrhau hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd yng Nghymru”Fe fydd y brotest yn galw heibio stondin Cyllid y Wlad, ac yn dod i ben y tu allan i stondin Cynulliad Cenedlaethol Cymru lle bydd Steffan Cravos, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a Catrin Dafydd, cadeirydd Grwp Deddf Iaith y Gymdeithas yn annerch.CEFNDIRMae'r brotest heddiw yn rhan o ymgyrch arbennig 'Cymru 2020' Cymdeithas yr Iaith yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Mae'n rhybuddio na fydd unrhyw gymunedau Cymraeg ar ol erbyn 2020 os na weithredir yn syth ar 3 ffrynt - Deddf Iaith yw un o'r ffryntiau hyn. Y 2 arall yw galw ar y Cynulliad ifynnu Deddf Eiddo, a galw ar gyrff cyhoeddus yn yr ardaloedd Cymraeg i gyflawni'u gwaith i gyd yn Gymraeg. Cafodd Pamffled 'Cymru 2020' ei lansio yn gynharach yn yr wythnos, ac i bwysleisio difrifoldeb y sefyllfa, mae nifer o aelodau'r Gymdeithas yn mynd heb rhywbeth pwysig iddynt yn ystod wythnos yr Eisteddfod dan y teitl 'Dychmygwch Gymru heb y Gymraeg.ffred_a_rhodri.jpgFfred Ffransis yn hyrwyddo'r syniad o Ddeddf Iaith Newydd i Rhodri Morgan ar y Maes heddiw.Stori oddi ar wefan ITV WalesStori oddi ar wefan BBC CymruStori oddi ar wefan BBC WalesStori oddi ar wefan Y Western MailStori 1 oddi ar wefan Y Daily PostStori 2 oddi ar wefan Y Daily PostStori oddi ar wefan y South Wales Evening Post