Protest Llundain yn erbyn cwtogiad S4C

Ymgyrchu yn y 1970au a rôl GwynforDrwy'r 1970au bu ymgyrchwyr iaith yn brwydro dros gael gwasanaeth teledu Cymraeg. Gwrthodwyd talu'r drwydded deledu gan Gymry amlwg, torrwyd i mewn i stiwdios teledu a bu protestwyr yn dringo mastiau a distrywio cyfarpar darlledu. Tyfodd consensws dros sefydlu sianel i raglenni Cymraeg a daeth yn rhan o faniffestoau y pleidiau gwleidyddol ar gyfer Etholiad 1979. Pan enillodd Margaret Thatcher a'r Ceidwadwyr yr Etholiad fe dorasant eu hymrwymiad a'u haddewid gan ddatgan na fyddai Sianel Gymraeg yn cael ei sefydlu. Yn 1980 gwnaeth Gwynfor Evans fygwth ymprydio hyd at farwolaeth oherwydd y tor-addewid a'r effaith trychinebus fyddai hyn yn cael ar yr iaith. Bu cynnwrf trwy Gymru wedi datganiad Gwynfor gan arwain at brotestio chwyrn. Anerchodd Gwynfor ddegau o gyfarfodydd cyhoeddus gorlawn trwy Gymru benbaladr ac roedd cannoedd yn ymrwymo i wrthod talu eu trwyddedau teledu. Ar ôl i Gymry amlwg megis Archesgob Cymru ar y pryd, Cledwyn Hughes a Goronwy Daniel fynd i gyfarfod ag aelodau o'r cabinet fe ildiodd Margaret Thatcher ac fe gytunwyd i sefydlu'r Sianel.llundain1.jpg llundain3.jpg llundain4.jpgProtest a chyfarfod yn Llundain am gyllid S4C - BBC Cymru - 09/09/2010'Fel y BBC' - dadl S4C wrth gwrdd â'r Ysgrifennydd Diwylliant - Golwg360 - 09/09/2010'Ddim yn deall' - Cymdeithas yn cyhuddo'r Llywodraeth - Golwg360 - 09/09/2010S4C - dim gwybodaeth am gynnwys cyfarfod tyngedfennol - Golwg360 - 09/09/2010S4C given ultimatum by Jeremy Hunt - Guardian - 10/09/2010S4C given month to prepare financial plan - BBC Wales - 10/09/2010Welsh television company must prepare plan - stockmarketwire.com - 10/09/2010S4C: Mis o rybudd i gyflwyno cynlluniau ariannol - BBC Cymru - 10/09/2010S4C stays silent on "tough" meeting - Western Mail - 10/09/2010S4C - angen 'trafodaeth genedlaethol' - Golwg360 - 10/09/2010Jeremy Hunt gives S4C four-week deadline - digitalspy.co.uk - 10/09/2010S4C given month to present financial plans - Western Mail - 10/09/2010Deiseb S4C