Bydd bywyd y cymeriad teledu Cyw yn cael ei roi yn y fantol wrth i'r ymgyrch i achub S4C gyrraedd maes Eisteddfod yr Urdd yn Abertawe heddiw (Dydd Mawrth, Mai 31).Ymysg siaradwyr y brotest bydd Bethan Jenkins AC, llefarydd darlledu Plaid Cymru, a Keith Davies AC ar ran y blaid Lafur. Wedyn bydd Cyw a chymeriadau plant eraill S4C yn cael eu hela o amgylch y maes gan y Gweinidog Torïaidd, Jeremy Hunt.Mae grwp ymbarél, sy'n cynnwys nifer o undebau a Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, wedi bod yn cydweithio i ddangos gwrthwynebiad i gynlluniau'r Llywodraeth i dorri grant S4C o 94% ac uno'r sianel â'r BBC a bydd y Gymdeithas yn pwysleisio fod angen i bob un chwarae ei ran yn yr ymgyrch os am weld dyfodol llewyrchud i ddarlledu yng Nghymru.Yn siarad cyn y brotest, fe rybuddiodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg y byddai ariannu S4C trwy'r ffi drwydded yn achosi tensiynau yng Nghymru:"Ar hyn o bryd mae Toriaid yn Llundain yn ceisio lladd Cyw a'i ffrindiau - cymeriadau plant hynod o boblogaidd. Ac mae darlledu Cymreig mewn argyfwng, does dim amheuaeth am 'nny. Rydyn ni ar lwybr sydd yn arwain at sefyllfa hunllefus. Fe fyddai'r cyfuniad o doriadau enfawr, yn ogystal â'r cynllun i uno S4C a'r BBC, yn golygu tensiynau iaith parhaol yn ein gwlad. Rydyn ni wedi bod yn rhybuddio am hyn ers dechrau'r helynt i S4C bron i flwyddyn yn ôl. Poen y tensiynau hynny a sicrhaodd cefnogaeth holl bobl Cymru tu ôl i'r syniad bod angen S4C fel sefydliad holl annibynnol yn y saithdegau."Ychwanegodd Bethan Williams:"Ein prif neges heddiw yw bod angen i ni barhau i ymgyrchu gyda'n gilydd, boed yn siaradwyr Cymraeg neu beidio, os ydym am weld dyfodol i'n hunig sianel Cymraeg. Os nad yw pethau yn newid, fe fyddwn ni yng Nghymru yn brwydro dros y briwsion, Cymry Cymraeg yn erbyn y di-Gymraeg. Does neb eisiau gweld hynny, dyna pam mae rhaid i ni ennill yr ymgyrch."