Protest Trago Mills: Llafur yn amddiffyn y cwmni, medd Cymdeithas

Mae Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo Llafur Cymru o amddiffyn cwmnïau fel Trago Mills drwy gynllunio i wanhau deddfwriaeth iaith, cyn protest ym Merthyr Tudful heddiw (11yb, dydd Sadwrn, 7fed Gorffennaf).  

Yn y Senedd wythnos yma, dywedodd y Gweinidog y Gymraeg Eluned Morgan, sy’n aelod o’r Blaid Lafur, ei bod “yn bwysig ein bod yn tanlinellu pwysigrwydd y cwmni hwn. Mae yna lawer o swyddi yma mewn ardal sydd eu hangen, felly faswn i ddim yn cefnogi’r galwadau am bobl i ymatal rhag siopa yno....  

Ychwanegodd y Gweinidog nad yw hi o blaid estyn dyletswyddau iaith i gwmnïau fel Trago Mills ac yn lle bod gyda hi: "lot mwy o ddiddordeb mewn hybu a hyrwyddo'r Gymraeg fel blaenoriaeth a dyna pam rŷm ni'n dod â phethau fel Cymraeg busnes i'r adwy, i sicrhau pan fydd pobl eisiau ymrwymo i'r iaith Gymraeg y bydd hawl ganddyn nhw wedyn i ofyn am help.”  

Dywedodd Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith a fydd yn siarad yn y brotest tu allan i'r siop ym Merthyr: 

"Yr unig ffordd o amddiffyn pobol Cymru rhag ymosodiadau fel hyn ydy deddfu yn gadarn a chlir dros y Gymraeg. Mae'r Blaid Lafur, a Gweinidog y Gymraeg Eluned Morgan yn benodol, yn gwrthod ein hamddiffyn yn erbyn busnesau mawr rhagfarnllyd fel hyn, sy'n syndod a siom fawr i lawer iawn o bobl. Yn wir, maen nhw'n bwriadu gwanhau ein hawliau iaith; mae'r Gweinidog eisiau deddfu er mwyn amddiffyn cwmnïau fel Trago Mills rhag gorfod darparu gwasanaethau Cymraeg cyflawn."