Mae mudiad iaith wedi protestio yn erbyn siop Lidl ym Mhorthmadog oherwydd ei diffyg gwasanaethau Cymraeg gan ddweud bod rhaid deddfu i sicrhau gwelliant.
Gwrthdystiodd grŵp o ymgyrchwyr tu allan i siop Lidl ym Mhorthmadog, sydd newydd gael ei ailaddurno. Daliodd y protestwyr arwyddion yn mynnu 'Safonau Iaith i'r Sector Breifat' fel rhan o ymgyrch y mudiad i gryfhau'r ddeddf iaith.
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu diwygio Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 dros y blynyddoedd nesaf. Yn ôl arolwg barn YouGov a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, mae mwyafrif o bobl Cymru eisiau estyn deddfwriaeth iaith i sicrhau gwasanaethau Cymraeg gan fanciau ac archfarchnadoedd.
Yn siarad am y brotest, dywedodd Manon Elin, Cadeirydd grŵp hawl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Mae Lidl yn amharchu'r Gymraeg ac ni ddylai fod rhaid i ni brotestio i gael gwasanaethau Cymraeg sylfaenol. Mae nifer fawr o siopau mawrion ac archfarchnadoedd yn anwybyddu anghenion y Gymraeg ledled Cymru. Mae nifer o enghreifftiau, fel Lidl, lle mae darpariaethau Cymraeg archfarchnadoedd wedi lleihau wrth iddynt agor neu ail-frandio eu siopau. Byddai deddfwriaeth yn sicrhau na fyddai hyn yn digwydd, a fyddai yn y pendraw yn arwain at welliant sylweddol.
"Gan fod archfarchnadoedd yn rhan o fywyd bob dydd llawer o bobl, mae'n bwysig iawn bod modd siopa yn Gymraeg. Rydyn ni'n gobeithio bydd y Llywodraeth yn manteisio ar y cyfle i gynnwys archfarchnadoedd, a gweddill y sector breifat, yng nghwmpas Mesur y Gymraeg wrth iddynt fynd ati i'w gryfhau. Yn wir, roedd yn galonogol clywed y Gweinidog yn dweud yn ddiweddar ei fod yn ffafrio gwneud hynny.
Mae adroddiad diweddar Comisiynydd y Gymraeg wedi canfod bod mwyafrif siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg yn hoffi gweld archfarchnadoedd yn defnyddio'r Gymraeg ac eisiau gweld mwy o ddefnydd. Ychwanegodd Manon Elin:
"Mae'r ymchwil rydyn ni wedi ei gyhoeddi, ac adroddiad diweddar y Comisiynydd, yn dangos na fydd nifer o'r cwmnïau mawrion hyn yn darparu gwasanaeth Cymraeg cyflawn oni bai fod gorfodaeth arnynt i wneud hynny. Dyna pam fod rhaid deddfu, yn hytrach na dibynnu ar ewyllys da."
Ar hyn o bryd, mae Mesur y Gymraeg 2011 yn caniatáu i Lywodraeth Cymru osod dyletswyddau ar rai cwmnïau yn y sector breifat megis cwmnïau telathrebu, dwr, ynni a thrafnidiaeth, ond ddim busnesau mewn sectorau eraill. Mae rhai o'r dyletswyddau newydd – y Safonau - eisoes yn cael eu gweithredu gan y sector gyhoeddus. Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, mewn cyfarfod ym mis Mawrth, dywedodd y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg, Alun Davies AC, ei fod o blaid deddfu er mwyn sicrhau bod archfarchnadoedd a banciau yn darparu gwasanaethau yn Gymraeg.