Pryder fod cyngor sir yn ystyried torri ei gefnogaeth i'r Gymraeg

Lai na dwy flynedd wedi i nifer siaradwyr y Gymraeg gwympo o dan hanner boblogaeth y sir mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi nodi pryder bod Cyngor Sir Ceredigion yn ystyried toriadau i'w fuddsoddiad yn y Gymraeg.

Wrth i Gyngor Sir Ceredigion ymgynghori ac ystyried dyfodol yr holl wasanaethau mae'n ei gynnig, mewn holiadur ar eu wefan gall trigolion ddewis rhwng 'parhau â’r lefel gyfredol' neu 'Lleihau' y gwasanaeth neu 'atal y gwasanaeth'

Ein pryder yw fod y cyngor yn ystyried y Gymraeg fel un o'r 'gwasanaethau' ac y gallai'r holiadur, fel ag y mae, arwain ar ddileu darpariaeth Gymraeg y cyngor.

Meddai Hywel Griffiths,Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn yr ardal:
“Er nad ydym yn cytuno â llymder, rydym yn derbyn fod yn rhaid i'r cyngor arbed arian oherwydd toriadau Llywodraeth San Steffan. Ein pryder ni yw mai gwasanaethau Cymraeg fydd yn cael eu colli er mai 'gwasanaethau dwyieithog' sy'n cael eu hystyried. Er i'r cyngor roi strategaeth newydd yn ei lle, nid yw meddylfryd y cyngor wedi newid dim - mae'r Gymraeg yn dal i gael ei gweld fel rhywbeth ychwanegol, yn wasanaeth, yn hytrach nag yn gyfrwng gwaith y cyngor.”

Mae methiant Arweinydd y Cyngor Ellen ap Gwynn i gadw at ei haddewid i sicrhau bod y cyngor yn gweithio'n fewnol yn y Gymraeg hefyd wedi ychwanegu at y broblem. 

Meddai Toni Schiavone, cadeirydd grwp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Yn ôl yn 2011, arwyddodd Ellen ap Gwynn, Arweinydd y Cyngor, ddatganiad oedd yn dweud ei bod yn cytuno gyda'r egwyddor y dylai'r cyngor weithio drwy'r Gymraeg.  Byddem yn disgwyl felly, nawr bod y Blaid yn arwain clymblaid yng Ngheredigion, bod camau pendant yn cael eu cymeryd i wneud y Gymraeg yn iaith gwaith y cyngor,  ond hyd yn hyn dydy'r cyngor ddim wedi dangos unrhyw fwriad i sicrhau fod y Gymraeg yn flaenoriaeth iddyn nhw. 
“Petai prif gyflogwr y sir yn datgan yn glir ei bod am symud i weithio drwy'r Gymraeg, fel mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi dechrau gwneud, byddai'n gosod esiampl i gyrff eraill ar draws y sir – ac yn dangos i ddisgyblion ysgol fod gwerth i'r addysg Gymraeg maen nhw'n ei gael.
“Yn ogystal, pe bai'r cyngor yn ymrwymo i weithio drwy'r Gymraeg a chyfieithu i'r Saesneg yn ôl angen byddai hynny, mewn gwirionedd, yn arbed costau cyfieithu. Fodd bynnag, rydyn ni dal i gredu bod gwasanaethau cyfieithu yn bwysig er mwyn sicrhau bob y di-Gymraeg yn gallu ymwneud â busnes y cyngor."

Mae holiadur Mae'n Amser Trafod Toriadau ar wefan Cyngor Sir Ceredigion - https://www.surveymonkey.com/s/Ceredigion-MaenAmserTrafodToriadau a gall holl drigolion Ceredigion ymateb iddo.

Y stori yn y wasg:

Campaigners fear for future of Welsh language in council - Tivy Side 21/08/14