Mae pump myfyriwr prifysgol Aberystwyth yn ymprydio am 24 awr heddiw (Dydd Iau, 3ydd Rhagfyr) i ddangos cyd-gefnogaeth i ymgyrchydd a garcharwyd ar ôl iddo dargedu siopau mawrion yng ngogledd Cymru.Mae Cymdeithas yr Iaith yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau i gyd-fynd â charchariad aelod a ymgyrchodd yn erbyn polisi iaith rhai o gwmnïau amlwg y stryd fawr. Carcharwyd Osian Jones, o Ddyffryn Nantlle, am 28 diwrnod gan ynadon Caernarfon wythnos ddiwethaf ar ôl iddo beintio sloganau ar siopau Boots a Superdrug.Fe ddywedodd myfyrwraig 18 oed, Mair Evans, un o'r pump sydd yn ymprydio:"Rydyn ni'n gwneud hyn i ddangos cefnogaeth i Osian. Mae Osian yn y carchar achos bod e wedi sefyll i fyny dros ein hawliau ni. Mae'n gwbl annheg bod y gyfundrefn bresennol yn golygu bod hyn yn digwydd. Dylai'r cwmnïau hyn ddarparu gwasanaethau sylfaenol Cymraeg o leiaf, y ffaith bod nhw'n gwrthod yn golygu bod gweithredoedd fel hyn yn anochel."
Fe ddywedodd Menna Machreth Jones, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Rwy'n hynod o falch bod ein haelodau yn cynnal digwyddiadau i gefnogi safiad Osian. Fel cymdeithas, yr unig beth 'ryn ni'n gofyn i'r cwmnïau mawr ei wneud yw gadael i'r iaith Gymraeg fyw. Mae'r mwyafrif llethol o'r siopau ar y stryd fawr yn cynnig gwasanaeth arwynebol ar y gorau, gyda rhai arwyddion tocenistaidd yn unig. Dydy hynny ddim digon da, mae angen i'r Llywodraeth weithredu er mwyn sicrhau hawliau pobl Cymru i ddefnyddio'r Gymraeg yn y sector breifat.""Mae'r Gymdeithas wedi trio'u perswadio nhw i ddarparu gwasanaethau sylfaenol yn y Gymraeg, ond heb lwyddiant. Maent yn anwybyddu barn y cyhoedd sydd yn cefnogi gwasanaethau dwyieithog: mae 76% o'r cyhoedd yn cytuno bod deunydd marchnata a hysbysebion dwyieithog yn bwysig ac 81% yn credu bod hyfforddi staff i ddysgu Cymraeg yn bwysig hefyd."Hefyd, fe fydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn gosod stondin ar stryd fawr Aberystwyth dydd Gwener y 4ydd o Ragfyr gan ddosbarthu taflenni am safiad y carcharor a gofyn i drigolion Aberystwyth i lofnodi llythyr o gefnogaeth i'r ymgyrchydd a'i ddanfon ato yn y carchar.