Pwyllgor i edrych ar newid y gyfraith er mwyn amddiffyn ysgolion bychain

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu penderfyniad pwyllgor deisebau’r Senedd heddiw (dydd Mawrth, 7fed Mai) i ystyried newidiadau i’r gyfraith er mwyn gwarchod ysgolion bychain.

Daw’r newyddion yn sgil trafodaethau’r pwyllgor ar ddeiseb a gyflwynwyd gan rieni ac ymgyrchwyr Ysgol Bodffordd yn yr Eisteddfod y llynedd a arweiniodd at dro pedol gan Gyngor Ynys Môn ar ei gynlluniau i gau’r ysgol.

Dywedodd Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith:

“Hoffen ni ddiolch i'r pwyllgor am eu harweiniad ar y mater yma, ac am gytuno i edrych ar greu ffordd o apelio yn erbyn penderfyniad cyngor i gau ysgol. Rydyn ni’n ffyddiog y cymer y Gweinidog sylwadau’r pwyllgor o ddifrif gan ei bod wedi profi ei bod am sicrhau tegwch i ysgolion a chymunedau gwledig. Yn ein profiad ni, mae hi wastad yn barod i wrando a gweithredu er lles y Gymraeg a chymunedau ledled y wlad.”