Pwysigrwydd gweinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg a diogelu Ysgolion Pentref

Vernon Morgan Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn croesawu penderfyniad Cyngor Sir Gâr i benodi Cymro Cymraeg (Vernon Morgan) i'r swydd o Gyfarwyddwr Addysg. Gobeithio y bydd yn sylweddoli pwysigrwydd gweinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg, a bydd yn sylweddoli pwysigrwydd ysgolion bychan pentrefol i'w cymunedau.

Ychwanegodd llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith"Dyw'r benod hon yn hanes lliwgar Cyngor Sir Gâr ddim yn syndod o gwbl i ni. Y broblem stylfaenol yw fod y Cyngor Sir yn Gorfforaeth gyfangwbl Saesng, gyda pob gweinyddiaeth yn cael ei wneud trwy gyfrwng y Saesneg. ""Dyw hi ddim yn syndod felly nad yw'r Iaith Gymraeg yn ystyriaeth pan maent yn penodi unigolyn at swydd. Os byddai'r Cyngor yn defnyddio'r Gymraeg yn ei gweinyddiaeth, ni fyddai'r broblem yma'n codi o gwbl."Stori oddi ar wefan BBC WalesStori oddi ar wefan BBC Cymru'r BydStori oddi ar wefan y Carmarthen's JournalStori oddi ar wefan y Tivy Side