Bydd Beth Winter, Aelod Seneddol Llafur dros Gwm Cynon, a Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, ymysg siaradwyr rali Nid yw Cymru ar Werth ym Mlaenau Ffestiniog ar 4 Mai.
Bydd y rali, sy’n cymryd lle ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr, yn pwysleisio’r angen am Ddeddf Eiddo i sicrhau bod tai yn cael eu trin yn bennaf fel angen cymunedol, nid asedau masnachol, fel bod pobl yn gallu parhau i fyw a gweithio yn eu cymunedau.
Ymysg y siaradwyr eraill bydd y Cynghorydd Craig ab Iago, deiliad portffolio tai Cyngor Gwynedd, a’r cerddor lleol, Gai Toms. Bydd y rali’n cael ei chyflwyno a’i harwain gan Gadeirydd Cenedlaethol Cymdeithas yr Iaith, Joseff Gnagbo, a’r cynghorydd tref lleol, Dewi Prysor.
Yn ystod y rali bydd yr ymgyrchydd iaith Ffred Ffransis yn cyflwyno galwad “Deddf Eiddo - Dim Llai” y Gymdeithas i’r Llywodraeth, sef:
“Galwn ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf Eiddo i greu marchnad dai addas at anghenion Cymru, ac i rymuso'n cymunedau lleol. Ni all ein cymunedau aros rhagor - mae'n bryd gweithredu.”
Bydd y siaradwyr ac arweinwyr lleol yn arwyddo’r datganiad ar ddiwedd y rali. Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyflwyno’r alwad i’r Llywodraeth ar faes Eisteddfod yr Urdd fis Mai.
Esboniodd Jeff Smith, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith:
“Rydym yn disgwyl i gannoedd fynychu i ddangos maint yr argyfwng sy'n wynebu cymunedau Cymraeg ac i ddatgan na wna unrhywbeth llai na Deddf Eiddo y tro. Mae cymunedau Cymraeg yn prinhau wrth i’w trigolion fethu a chystadlu yn y farchnad agored a chael eu gorfodi i adael.
“Rydym yn agosáu at y misoedd olaf lle bydd cyfle ymarferol i’r Llywodraeth gyflwyno deddfwriaeth a’i phasio cyn diwedd tymor y Seneddol. Edrychwn ymlaen yn ofnadwy i weld ystod eang o bobl sy'n credu yn nyfodol Cymru a chyfiawnder cymdeithasol yn ymuno â’r alwad i fynnu Deddf Eiddo ar benwythnos Gŵyl Ryngwladol y Gweithwyr.”
Rydyn ni'n gobeithio y bydd y rali, y cyntaf o ddwy eleni, yn dylanwadu’n gadarnhaol ar Bapur Gwyn y Llywodraeth ar Yr Hawl i Dai Digonol a Rhenti Teg ac ar adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, sydd yn cael eu cyhoeddi yn yr haf. Bydd yr ail rali ym Machynlleth ar Fedi 14 yn ymateb i’r cyhoeddiadau.