Rali'r Cyfrif: Safiad Sir Gâr

Bydd pobl o ar draws Sir Gaerfyrddin yn ymgynnull wrth Neuadd y Sir am 11am fore Sadwrn 19eg Ionawr 2013 i ddatgan eu pryder am y dirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sir ac i fynnu dyfodol i gymunedau lleol Cymraeg. Yn arwain y dorf i addunedu eu bod "Eisiau byw yn Gymraeg" bydd teuluoedd rhai o arwyr y Sir fel Gwynfor a Ray Gravell yn ogystal â ffigurau amlwg o fyd gwleidyddiaeth a diwylliant.

Ymhlith y bobl sydd wedi datgan eu bod am lofnodi adduned ar y diwrnod mae Maer Caerfyrddin Y Cyng. Philip Grice, y Cynghorydd lleol Alun Lenny ac arweinydd yr wrthblaid ar y Cyngor Sir Cyng. Peter Hughes Griffiths.

Hefyd yn esbonio pam eu bod yn arwyddo'r Adduned sy'n mynnu fod gweithredu dros ein cymunedau Cymraeg, bydd yr AS lleol Jonathan Edwards, yr actorion Rhian Morgan a Julian Lewis Jones; y cyn-archdderwydd John Gwilym Jones, cyn-lywydd Merched y Wawr Glenys Thomas, Is-Lywydd Undeb Amaethwyr Cymru Brian Walters a Fflur Dafydd a Tudur Dylan o fyd y celfyddydau. Bydd y band ifanc lleol Bromas hefyd yn diddanu'r dorf ar gychwyn y rali.

Dywed Sioned Elin, Cadeirydd Rhanbarth Sir Gâr Cymdeithas yr Iaith:

"Ein gobaith yw y bydd dros fil o bobl y sir wedi llofnodi'r Adduned cyn diwedd y mis. Mae pawb wedi cael sioc gan ffigurau'r Cyfrifiad a byddwn yn dod at ein gilydd Ddydd Sadwrn i ddangos ein bod o ddifri am fynnu byw ein bywydau'n Gymraeg ac yn mynnu fod y llywodraeth a'r Cyngor Sir yn gweithredu strategaeth frys i gryfhau'n cymunedau Cymraeg."

Dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn genedlaethol:

"Nid oes diben eistedd yn ôl a derbyn canlyniadau’r Cyfrifiad: gydag ymgyrchu cadarnhaol ac ewyllys gwleidyddol, gallwn ni newid ein tynged a thynged ein cymunedau Cymraeg. Ni all y Gymraeg a’i chymunedau fforddio mwy o’r un peth gan y llywodraeth na sefydliadau Cymru yn ehangach."

“Mae’n amser am ddewrder a syniadau newydd gan ein gwleidyddion. Os derbynia’r Llywodraeth bod argyfwng yn wynebu’r Gymraeg sydd angen ei ddatrys ar frys, bydd gobaith. Credwn mai dyhead nifer cynyddol o bobl Cymru yw gwlad lle gallwn ni i gyd fyw ein bywydau yn Gymraeg; deallwn hefyd mai sicrhau cryfder cymunedau Cymraeg eu hiaith yw'r unig ffordd o wireddu'r weledigaeth honno.  Yr hyn sydd eisiau arnom yw’r ewyllys gwleidyddol i wireddu dyheadau pobl ar lawr gwlad"

Am fwy o wybdoaeth: 01559 384378 / bethan@cymdeithas.org