“Rhaid i Gamau Brys Arwain at Ateb Cyflawn”
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu datganiad y Llywodraeth heddiw (23/11/2021) ar reoli ail gartrefi a llety gwyliau fel camau ar y ffordd i sicrhau cartrefi i bobl yn eu cymunedau, ond hefyd yn gofyn am ymrwymiad at Ddeddf Eiddo gyflawn yn ystod y tymor seneddol hwn fel datrysiad cyflawn i sicrhau cyfiawnder yn y farchnad dai ac eiddo.
Dywedodd Mabli Jones, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
“Mae'n diolch ni i bawb sy wedi cymryd rhan yn yr ymgyrch hon, i warchod ein cymunedau a cheisio sicrhau cartrefi i bobl leol ynddynt. Mae pwysau ymgyrchu wedi cael effaith sylweddol. Bydd rheoleiddio llety gwyliau, caniatáu i awdurdodau lleol ei gwneud yn orfodol i gyflwyno cais cynllunio i newid defnydd tŷ i fod yn ail dŷ neu lety gwyliau ac arian i gymryd tai gwag mewn i ddwylo cyhoeddus yn cael effaith cadarnhaol ar y stoc tai ar lawr gwlad."
Ychwanegodd:
"Mae hyn yn gam ymlaen, ond roedden ni'n gwybod eisoes am y bwriad am gynllun peilot yn Nwyfor. Mae'n dda gweld y bydd hwnnw'n dechrau fis Ionawr ac y bydd camau ymarferol yn rhan o hynny ond beth am weddill Cymru? Rydyn ni’n gwybod yw’r atebion i’r problemau yn ein system tai - dylai’r cynigion gael eu gweithredu ar draws y wlad.
"Daeth dros fil i rali Nid yw Cymru ar Werth ar risiau’r Senedd yn ddiweddar i alw am weithredu radical gan y Llywodraeth. Rydym yn galw felly am ymrwymiad gan y Llywodraeth i greu Deddf Eiddo gynhwysfawr yn ystod tymor y Senedd hon."
Croesawodd Cymdeithas yr Iaith gyhoeddiad y cytundeb cydweithio rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru ddoe, oedd yn cynnwys ymrwymiadau i sawl un o alwadau Cymdeithas yr Iaith ym maes tai, megis gosod cap ar nifer yr ail dai a llety gwyliau mewn cymunedau; rheoli rhent; dod â rhagor o gartrefi o dan berchnogaeth gyffredin; cynyddu trethi ar ail dai a chyflwyno treth ar dwristiaeth.