Rhaid ystyried anghenion pobl leol a'r iaith Gymraeg wrth ystyried cynllunio

bawd_deddf_eiddo.jpgCafodd cynghorwyr yng Ngheredigion eu beirniadu am ganiatáu ceisiadau cynllunio gan siaradwyr Cymraeg er bod argymhelliad i'w gwrthod.Dywedodd Angharad Clwyd, cadeirydd Rhanbarth Ceredigion, eu bod nhw'n cefnogi penderfyniad y cynghorwyr i gefnogi pobl leol.

"Rydym yn cefnogi penderfyniad Cyngor Sir Ceredigion i edrych ar anghenion pobl leol a'r iaith Gymraeg wrth ystyried cynllunio. Mae Cymdeithas yn credu y dylai pobl leol gael blaenoriaeth ac rydym yn galw am ddeddf eiddo a fyddai'n sicrhau diogelwch ein cymunedau."Stori llawn ar wefan y BBC...