Wrth fynegi siom fod Cabinet Ceredigion wedi dilyn llwybr "rhagweladwy" o gychwyn ymgynghori statudol ar gynnig i gau dwy ysgol bentrefol arall dywed y Gymdeithas mai trwy'r ysgolion pentrefol hyn y mae modd tynnu mewnfudwyr ifainc i'r sir i mewn i'r bywyd Cymraeg.
Esbonia Ffred Ffransis, llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith:
"Mor rhagweladwy fod Cabinet Ceredigion unwaith eto'n anwybyddu ple gan bobl leol ac yn dechrau proses statudol eto o gau dwy ysgol bentrefol, Ysgol Llangynfelyn a Chwm Padarn. Daeth cannoedd o fewnfudwyr di-Gymraeg ifainc i'r sir yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a chalondid oedd bod llawer ohonynt yn teimlo perchnogaeth ar ysgol Gymraeg eu pentref ac yn uniaethu â dyhead eu plant i fod yn rhan o'r gymuned Gymraeg leol. Daeth degau ohonynt i brotest a drefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith yn swyddfa'r Cyngor Sir yn Aberystwyth wrth i banel addysg y cyngor gwrdd - gan ddangos gwir ddiddordeb yn nyfodol eu hysgol a'u cymuned. Trwy eu hanwybyddu, mae'r Cyngor Sir yn condemnio'r iaith Gymraeg i fod yn gyfrwng addysg yn unig, nid yn allwedd i berthyn i gymunedau lleol. Mae angen gweithio gyda nhw a chynnig rhan yn nyfodol ein cymunedau Cymraeg i fewnfudwyr o ewyllys da."
Bydd y cyngor sir yn dechrau ar y broses o gynnal ymgynghoriad statudol ar Fai yr 11eg