Rhowch sicrwydd i'r ysgolion am eu dyfodol

Wrth sylwi ar benderfyniad Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin i estyn cyfnod ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol Ysgol Mynydd-y-Garreg tan ganol Gorffennaf, mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y Cyngor i ddefnyddio'r amser i roi sicrwydd i'r ysgol am ei dyfodol.

Dywed Ffred Ffransis ar ran Rhanbarth Caerfyrddin o'r Gymdeithas:

"Yn ystod y cyfnod chwe wythnos o ymgynghori fe frwydrodd llywodraethwyr a rhieni Mynydd-y-Garreg yn erbyn yr ods i lunio Cynllun Busnes blaengar a thrylwyr ar gyfer dyfodol yr ysgol. Er mwyn sicrhau nad gwastraff amser fydd y 4 mis nesaf, gofynnwn i'r Cyngor - yn aelodau etholedig yn ogystal â swyddogion - i ddefnyddio'r amser, fel arwydd o ewyllys da ac o werthfawrogiad o waith y llywodraethwyr, i drafod y Cynllun yn fanwl gyda nhw fel eu bod yn gallu rhoi iddynt sicrwydd am eu dyfodol. Mae hefyd amser digonol i symud ymlaen at ffurfio ffederasiwn rhwng Ysgolion Mynydd-y-Garreg a Gwenllian gan nad oes angen yr un broses cyfreithiol i sefydlu ffederasiwn o'r fath. 

"I bob pwrpas, mae cynnig gwreiddiol y Cyngor, o ran cau'r ysgol, wedi syrthio gan y byddai angen amserlen cwbl wahanol i'r hyn sydd yn y ddogfen ymgynghorol. Daeth cyfle felly am drafod cadarnhaol a sail lewyrchus i addysg Gymraeg yn yr ardal yn ysgolion Gwenllian A Mynydd-y-Garreg. Dylid defnyddio'r cyfamser hefyd i sicrhau fod y cais am yr adeiladau newydd yn barod fel na bob oedi pellach i Ysgol Gwenllian chwaith"

Dywedodd Sue Woodward, sy'n gadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr Ysgol Mynydd-y-Garreg ei bod yn obeithiol am ddyfodol yr ysgol:

"Rydyn ni'n falch fod y Cyngor wedi rhoi i ni'r amser a'r cyfle i symud ymlaen gyda'n Cynllun Busnes ar gyfer dyfodol yr ysgol, ac edrychwn ymlaen at ganlyniad llwyddiannus i bawb. Diolchwn am gefnogaeth lwyr Cymdeithas yr Iaith sydd wedi ein hatgoffa mor bwysig yw ysgolion bach i dwf cyson yr iaith Gymraeg"