Rhybudd am Dai Newydd yn Sir Gaerfyrddin yn Dilyn Argyfwng Covid

Wrth ddanfon tystiolaeth atodol at yr ymgynghoriad ar Gynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin, mae Cymdeithas yr Iaith yn lleol wedi rhybuddio fod perfformiad yr economi a’r farchnad dai dros yr haf wedi dangos y byddai 8000 o dai newydd yn mynd tuag at dai gwyliau, Air B&B a denu mewnlifiad yn hytrach nag ar gyfer gweithwyr mewn swyddi newydd.

Mae Cynllun Adnau C.D.Ll. Cyngor Sir Caerfyrddin am roi caniatâd i fwy na 8000 o dai newydd fel rhan o gynllun creu 5200 o swyddi newydd. Ail-agorodd y Cyngor yr ymgynghoriad am 3 wythnos gan fod argyfwng Covid-19 wedi amharu ar ddiwedd yr ymgynghoriad gwreiddiol ym mis Mawrth eleni. Mae’r Gymdeithas yn galw ar bobl i ymateb cyn y dyddiad olaf am 5pm fory Gwener 2.10.20.

Mae’r Gymdeithas yn ei hymateb yn pwyntio allan y bydd economi Prydain yn crebachu o dros 10% eleni, ac y disgwylir gostyngiad o dros 7% eto dros y 15 mlynedd nesaf o ganlyniad i Brexit. Yr un pryd y mae argyfwng Covid wedi achosi galw enfawr o du allan am dai yn y Gymru wledig. Yn ôl tystiolaeth y Gymdeithas -

“Mae yna risg sylweddol pe bai’r Cyngor yn mynnu cadw at y strategaeth a amlinellir yn y Cynllun diwygiedig, y byddai cynnydd arwyddocaol yn y stoc tai yn mynd (yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol) at greu mwy o ail gartrefi, tai gwyliau ac i ddenu mewnlifiad yn hytrach nag ar gyfer gweithwyr mewn swyddi newydd.”

Dywedodd ysgrifennydd y rhanbarth Bethan Williams “Mae digwyddiadau eleni wedi dangos fod angen i Gyngor Sir Caerfyrddin ailedrych yn gyfan gwbl ar y nifer o dai newydd yn y Cynllun Datblygu Lleol. Dylai’r Cyngor fynnu gan y llywodraeth rymoedd i reoli’r farchnad dai er mwyn pobl leol”

Mae ymateb gwreiddiol ac ymateb atodol y rhanbarth i'w gweld yma.