RHYBUDD AM "GANLYNIAD ANFWRIADOL" BIL Y CWRICWLWM I AMDDIFADU PLANT O'R GYMRAEG

Mae Rhanbarth Caerfyrddin Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y cannoedd
o addysgwyr a gwynodd am Fil y Cwricwlwm i anfon ymateb erbyn 5pm fory
(Dydd Mawrth 29ain Medi) i ymchwiliad Pwyllgor Plant, Pobl Ifainc ac
Addysg y Senedd i'r Bil. Mae holiadur y Pwyllgor
https://www.smartsurvey.co.uk/s/3EO06Q/   yn gofyn yn benodol (3:1) a
fydd unrhyw "ganlyniadau anfwriadol" i'r Bil.
 
Mewn ymateb i'r Pwyllgor, esbonia'r Gymdeithas fod un canlyniad
anfwriadol trychinebus -
 
"Mae'r Bil fel y mae'n sefyll yn debyg o ddwyn oddi ar filoedd o
ddisgyblion sy'n dod o aelwydydd Saesneg eu hunig wir gyfle mewn bywyd o
ddod yn rhugl yn y Gymraeg yn ogystal â Saesneg o ran iath ngwaith a
chyfathrebu. Bydd hyn yn eu gosod tan anfantais arwyddocaol mewn gwlad
swyddogol ddwyieithog.
 
Cydnabyddir yn gyffredinol mai dull "trochiant" yn y Gymraeg o'r oedran
cynharaf yw'r unig ddull effeithiol o sicrhau fod disgyblion o gartrefi
Saesneg yn dod yn rhugl yn y Gymraeg - er ei bod yn bwysig hefyd fod
elfen o'u haddysg o hynny allan hefyd yn parhau'n Gymraeg ei chyfrwng.
Mae gorfodaeth yn y Bil i gyflwyno Saesneg o'r oedran cynharaf yn
tanseilio dull trochiant ac yn gwneud anghymwynas mawr â disgyblion.
 
Ni chredwn fod yr opsiwn i optio allan o'r rhan hon o'r Bil yn datrys y
broblem a greir gan y Bil ei hun. Golygir y bydd dal posibiliad fod
ysgolion sy'n addysgu'n gyfangwbl yn Gymraeg o 3-7 oed yn stopio gwneud
hynny ac, yn bwysicach, bydd yn amhosibl creu unrhyw strategaeth sirol o
symud ysgolion ar hyd continwwm tuag at addysg Gymraeg ei chyfrwng. Bydd
yn rhaid wedyn cwestiynu holl ddilysrwydd Cynlluniau Strategol y Gymraeg
mewn Addysg.
 
Mae'r cynnig o ran optio allan yn arbennig o beryglus mewn sir fel
Caerfyrddin lle mae pob ysgol gynradd yn yr ardaloedd gwledig yn dysgu
trwy gyfrwng y Gymraeg hyd at 7 oed. Byddai dadl am optio allan yn
ailagor hen ddadleuon a rhwygiadau a setlwyd genhedlaeth yn ôl. Y polisi
presennol mewn sir fel hon ac yn Nyffryn Teifi a rhannau helaeth eraill
o Ddyfed sy'n sicrhau fod plant mewnfudwyr i'r sir yn datblygu sgiliau
i chwarae rhan llawn ym mywyd eu cymunedau yn ogystal â chwblhau eu
haddysg yn llwyddiannus. Byddai gweithredu'r cymalau hyn yn y Bil fel y
mae yn creu rhwygiadau cymdeithasol yn ogystal â gosod carfan o
ddisgyblion tan anfantais. Byddai meithrin cenhedlaeth arall o bobl na
fedrent Gymraeg hefyd yn amddifadu'n ymarferol llawer o hawliau
siaradwyr Cymraeg o ddefnyddio'r iaith yn eu bywyd bob dydd, ac yn
gwneud gwasanaethau cyhoeddus yn dlotach.
 
Yn yr ymgynghoriad gwreiddiol, ni ofynnodd fawr neb am yr opsiwn hwn ac
ni ddylsid ei gynnwys. Nid oes angen deddfwriaeth i gynnal yr iaith

Saesneg yng Nghymru, ac yn sicr ni ddylai fod yn orfodol cyn 7 oed."