Rhybudd Olaf Cymdeithas yr Iaith i’r Llywodraeth

Ble mae'r Gymraeg?Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyflwyno rhybudd olaf i Lywodraeth y Cynulliad ar faes yr Eisteddfod ddydd Iau y 7fed o Awst. Mae'r Gymdeithas hyd yn oed wedi gwahodd Alun Ffred Jones y Gweinidog Treftadaeth newydd i ymuno gyda hwy yn y gwrthdystiad.

protest-iau-steddfod1-bach.jpgprotest-iau-steddfod2-bach.jpgprotest-iau-steddfod3-bach.jpgprotest-iau-steddfod4-bach.jpgYn y brotest bydd aelodau cyflwyno tystiolaeth o ddiffyg Cymraeg o fewn gwasanaethau sy’n hanfodol mewn bywyd bob dydd, sydd yn amrywio o fanciau i archfarchnadoedd er mwyn pwysleisio’r angen am ddeddfwriaeth gref o fewn y sector breifat.Meddai Bethan Williams, Cadeirydd Grŵp Deddf Iaith:"Wrth i’r Llywodraeth roi Gorchymyn Cymhwyso Deddfwriaethol at ei gilydd ar gyfer deddf iaith newydd mae’n bwysig ein bod ni’n pwysleisio’r angen am ddeddf iaith gyflawn."Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am statws swyddogol i’r iaith Gymraeg, fod holl fusnesau’r sector preifat yn cael eu cynnwys a bod swydd Comisiynydd yn cael ei chreu i sicrhau y cedwir at y pethau hyn.’Ychwanegodd:"Wedi cyfnod o lobio Aelodau Seneddol dyma’n rhybudd olaf ni i’r Llywodraeth. Cafwyd addewid o ddeddf iaith newydd yn nogfen Cymru’n Un, mae angen iddynt gadw at ei gair."