Mewn sesiwn dystiolaeth ar lafar i Bwyllgor Plant Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd ar Fil y Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru heddiw (26 Medi 2024), rhybuddiodd Cymdeithas yr Iaith bod rhaid mewnosod targedau statudol ar gyfer cynyddu addysg Gymraeg “ar wyneb” y ddeddfwriaeth yn hytrach na “gobeithio’r gorau”.
Er ei bod yn un o amcanion y Bil bod pob plentyn yn gadael yr ysgol yn siarad Cymraeg, mae Cymdeithas yr Iaith wedi rhybuddio nad hyn fydd ei ganlyniad ar ei ffurf bresennol.
Fel rhan o’u tystiolaeth ysgrifenedig ar gyfer ymgynghoriad y Pwyllgor ar y ddeddfwriaeth, mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am osod targed canrannol ar gyfer y nifer o blant sydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg ochr yn ochr â’r targed i gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050 ar wyneb y Bil, gan argymell ei fod yn cael ei osod ar 100%, er mwyn sicrhau bod hawl pob plentyn i siarad y Gymraeg yn hyderus yn cael ei wireddu.
Eglurodd Osian Rhys o Gymdeithas yr Iaith yn y sesiwn dystiolaeth ar lafar:
“Pryder mawr sydd gennym ni yw bod cymaint yn y Bil yn dibynnu ar reoliadau. Mae llawer iawn yn dibynnu ar benderfyniadau gweinidogion a gweision sifil yn y dyfodol ac ychydig iawn yn y bôn sydd yn y Bil fydd yn sicrhau bod unrhyw beth yn newid o gymharu â’r system bresennol.
“Rydyn ni’n galw am dargedau statudol ar wyneb y Bil; mae’r sail statudol yn y Bil dros greu targedau fel is-reoliadau yn fater hollol wahanol.
“I ni, y targed yw bod cant y cant o ysgolion yn dysgu drwy’r Gymraeg erbyn 2050. ‘Dyw’r Bil ddim yn gosod unrhyw darged - does dim canran, mae’r Bil yn hollol annelwig.
“Felly, beth bynnag yw bwriad y Llywodraeth, dw i’n meddwl bod rhaid i hynny fod yn eglur ar wyneb y Bil yn hytrach na sefyllfa sydd gyda ni ar hyn o bryd lle mae yna ryw deimlad o ‘gobeithio’r gorau.’”
Bu consensws ymysg cynrychiolwyr Cymdeithas yr Iaith, Dyfodol i’r Iaith a’r Mentrau Iaith yn y sesiwn dystiolaeth mai addysg cyfrwng Cymraeg yw’r unig ffordd o greu siaradwyr Cymraeg hyderus, ac mai dyma’r unig ffordd o alluogi hawl plentyn i’r Gymraeg.
Ychwanegodd Osian Rhys:
“I ni, rydym yn dechrau hefo’r plant. Mae 80% o blant Cymru yn gadael yr ysgol yn y bôn heb allu siarad Cymraeg. Mae adroddiadau’r Llywodraeth - adroddiad [Un Iaith i Bawb] Sioned Davies o 2013 - wedi ei gwneud hi’n hollol glir nad yw dysgu’r Gymraeg fel pwnc yn creu siaradwyr Cymraeg hyderus.
“Am y blynyddoedd nesaf, hyd yn oed y degawdau nesaf, bydd y mwyafrif o blant yn gadael yr ysgol heb siarad Cymraeg, a’n teimlad ni yw bod dim byd yn y Bil sy’n mynd i newid hynny.”