Rhywbeth at Ddant pawb yn gigs ‘Steddfod 2006

gigs-steddfod-abertawe.jpgFel arfer, bydd amrywiaeth eang o artistiaid cerddorol yn diddanu eisteddfodwyr Abertawe eleni, wrth i Gymdeithas yr Iaith gyhoeddi eu lineups cyffrous ar gyfer yr wythnos.Bydd y Gymdeithas, a enillodd wobr 'Digwyddiad Byw y Flwyddyn, Gwobrau RAP C2' am ei gigs yn Eisteddfod 2005, yn defnyddio dwy ganolfan yn ystod yr wythnos, eleni. Y cyntaf o’r rhain yw Bar 5 yng nghanol y ddinas, a’r ail yw’r Glamorgan Arms ym Mhontlliw ar y cyrion.

Dywedodd Owain Schiavone, Swyddog Adloniant Cymdeithas yr Iaith:“Mae’n hollbwysig i ni fel trefnwyr ein bod yn mynd allan i gymunedau’r Eisteddfod gyda’n gigs, fel bod y gymuned yn gweld budd economaidd ac yn teimlo’n rhan o’r wyl. Er bod maes yr Eisteddfod ar gyrion y ddinas roeddem yn teimlo’n gryf y dylem gael un ganolfan yn y canol fel bod y trigolion yn cael cyfle i flasu diwylliant Cymreig unigryw’r ‘Steddfod.”Mae'r Gymdeithas wedi bod yn trefnu gigs yn ystod wythnos yr Eisteddfod ers dechrau'r 1970au ac mae’r traddodiad hwnnw’n parhau eleni gydag arlwy a fydd yn tynnu dwr i ddannedd gig-garwyr Cymru. Mae digon o amrywiaeth yn ystod yr wythnos gyda phrif fandiau ac artistiaid Cymru i gyd yn perfformio. Bydd hoelion wyth y sin yn cael eu cefnogi gan rai o fandiau mwyaf addawol Cymru ar hyn o bryd wrth i'r Gymdeithas geisio gwasgu gymaint â phosib i mewn i'r wythnos. Dywed Owain:“Mae datblygu a meithrin bandiau ac artistiaid ifanc, newydd yn bwysig iawn i ni gan maen nhw yw dyfodol y sin. Mae’r Eisteddfod yn gyfle gwych iddyn nhw berfformio o flaen cynulleidfa ehangach. Rydym wedi ceisio gwasgu gymaint â phosib o fandiau i mewn i’r gigs eleni er mwy rhoi cyfle i Blant Duw, Jen Jeniro, Merched Mecca a’u tebyg gefnogi artistiaid profiadol fel Meic Stevens, Drymbago a Neil Rosser.”Felly mae'n argoeli’n wythnos gyffrous a phrysur i ddilynwyr cerddoriaeth Gymraeg yr Eisteddfod eleni gyda rhywbeth fydd at ddant pob blas cerddorol.Amserlen Gigs Cymdeithas, Eisteddfod Abertawe 2006Gig Mawreddog Lansio'r 'SteddfodBar 5 @ Barons Nightclub, 16-18, Heol y Coleg, AbertaweSadwrn 05/08/06Dafydd Iwan ac Ar LogMerched Beca+ mwyGigs Bar 5Bar 5 @ Barons Nightclub, 16-18, Heol y Coleg, AbertaweLlun 07/08/06SibrydionTangwystlFfeinal Brwydr y BandiauMawrth 08/08/06Euros ChildsMattoidzCofi Bach a Tew ShadyKenavo (gyda aelodau Java)Mercher 09/08/06Meic StevensMim Twm LlaiPlant DuwPwsi Meri Mew MovementIau 10/08/06Radio LuxembourgJakokoyakBobDerwyddonGwener 11/08/06DrymbagoSwci BoscawenJen Jeniro+ mwySadwrnFrizbeeGenod DroogMC SaizmundoEnillwyr ByBGigs Y Glamorgan ArmsHeol Bryntirion, Pontlliw, AbertaweLlun 07/08/06Gwilym MorusAlun Tan LanFfeinal Beirdd v RapwyrMawrth 08/08/06Huw ChiswellBrigynGareth PhillipsMercher 09/08/06Bryn FônSarah LouisePapaginiIau 10/08/06Geraint LøvgreenTecwyn IfanStrêtsGwener 11/08/06Bob Delyn a’r EbillionDan Lloyd a Mr PincDan AmorCowbois Rhos BotwnogSadwrn 12/08/06Neil RosserFflur Dafydd a’r BarfUmmhMerched Mecca