Mae mudiad iaith wedi rhybuddio bod cytundeb newydd rhwng S4C a'r BBC heddiw yn gam arall yn y broses o'r BBC yn traflyncu'r sianel.
Honna'r mudiad fod y cytundeb yn golygu y bydd gan y BBC ddylanwad mawr ar faterion golygyddol a gweinyddol S4C. Dywed y cytundeb: "Dylai’r bartneriaeth gynnwys, lle y bo’n briodol, cydweithredu ym meysydd technoleg; mynediad i’r iPlayer; datblygu prosiectau creadigol; materion golygyddol; hyrwyddo gwasanaethau’r BBC ac S4C; ac effeithlonrwydd gweithredol."
Hefyd, mae'r mudiad yn pryderu bod y cytundeb yn rhoi grym a dylanwad dros waith darparu gwasanaethau S4C gyda manylion mewn cytundeb arall sydd heb ei gyhoeddi: "Mae S4C a’r BBC yn bwriadu cydleoli a rhannu gwasanaethau technegol ar gyfer darlledu a darparu Gwasanaethau S4C a gwasanaethau’r BBC yng Nghymru, yng nghanolfan ddarlledu newydd y BBC yn y Sgwâr Canolog, Caerdydd. "
Meddai Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
"Ers bron i wyth mlynedd bellach mae'r BBC wedi bod yn gweithio law yn llaw gyda'r Llywodraeth Geidwadol yn Llundain i geisio traflyncu S4C. Maen nhw eisiau adeiladu ei ymerodraeth yn bellach er eu bod yn dominyddu'r cyfryngau yng Nghymru bron â bod yn gyfan gwbl yn barod. O dan y cynlluniau yn y cytundeb hwn, mae dros hanner staff S4C yn mynd i fod yn gweithio o swyddfa'r BBC yng Nghaerdydd, bydd y BBC yn darlledu signal teledu S4C, mae rhaglenni S4C ar yr I-player, ac mae'r gorfforaeth wedi dwyn allbwn drama S4C. Ble mae diwedd y daith? Gyda'r BBC yn rheoli pob dim os nad oes rhywbeth radical yn digwydd.
"Mae S4C i fod i symud i Gaerfyrddin, dylid gwneud hynny'n gyfan gwbl. Dylid canslo'r cytundeb 'partneriaeth' bondigrybwyll hwn a'r cyd-leoli yng Nghaerdydd yn syth, dyna un ffordd o geisio atal y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig rhag cael rheolaeth lwyr dros ein hunig sianel deledu Gymraeg."
Ychwanegodd:
"Os yw cymaint o fanylion â hyn eisoes wedi eu pennu yn y cytundeb hwn, beth yw diben adolygiad Llywodraeth Prydain o'r sianel? Mae'r amseriad yn edrych yn tanseilio'r adolygiad. Yr unig ateb i hyn yn y pendraw yw datganoli darlledu i Gymru: dylai penderfyniadau am ddarlledu yng Nghymru gael eu gwneud yng Nghymru. "