S4C: Galw ar i ymddiriedolwr BBC ymddiswyddo dros ddêl 'twyllodrus'

elan_closs_stephens.jpgMae ymgyrchwyr iaith wedi galw ar i ymddiriedolwr y BBC ymddiswyddo ar ôl i'r darlledwr llofnodi cytundeb a fydd yn golygu y bydd ganddyn nhw reolaeth lwyr dros gyllideb S4C.Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cwestiynu pwrpas swydd Elan Closs Stephens, y cynrychiolydd o Gymru ar Ymddiriedolaeth y BBC, gan fod y corff wedi gwthio penderfyniad a fydd yn rhoi dyfodol S4C yn y fantol heb ymgynghori gyda phobl Cymru.Mae'r cytundeb, a gafodd ei ryddhau ar ddiwedd sesiwn San Steffan cyn cynadleddau'r pleidiau, yn gadael i'r BBC benderfynu cyllideb S4C gan ddatgan "in financial years 2015/16 and 2016/17 funding will be for the BBC to determine,". Yn gynt, dadleuodd cyfarwyddwyr y BBC nad oedd S4C yn cael ei chymryd drosodd, er i adroddiad trawsbleidiol ddod i'r casgliad bod y model "sounded more like a takeover than a partnership".Fe ddywedodd Menna Machreth, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Nid oes amheuaeth bellach, fe gollwn ni ein hunig sianel deledu Gymraeg os nad yw pethau yn newid. Stopio'r sianel rhag diflannu yw'r flaenoriaeth nawr. Yn dilyn cytundeb twyllodrus arall gan y BBC a'r Llywodraeth, mae rhaid gofyn beth mae cynrychiolydd Cymru ar Ymddiriedolaeth y BBC yn ei wneud. Mae rhaid i Elan Closs Stephens ystyried ei dyfodol."Mae'n ymddangos nad yw'r un o'r ddau barti wedi ystyried o gwbl y goblygiadau i S4C a'r Gymraeg - mae'n gywilyddus bod y BBC a'r Llywodraeth yn gallu ymddwyn fel hyn. Bellach, mae'n gwbl glir bod holl sôn rheolwyr y BBC a gwleidyddion y Llywodraeth am annibyniaeth S4C yn eiriau cwbl wag."Ychwanegodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae'r newyddion hyn yn dangos yn glir bod y BBC a'r Llywodraeth yn dweud celwyddau wrth honni eu bod nhw am sicrhau dyfodol ac annibyniaeth y sianel a'u haddewid i drafod yn agored unrhyw gynlluniau cyn gwneud penderfyniad. Mae'n amlwg mai'r peth pwysicaf i'r BBC yw sicrhau eu dyfodol eu hunain ac mai blaenoriaeth y Llywodraeth yw i arbed arian does a ddel - a hynny ar draul S4C."Ar yr un pryd ag yr oedd Gweinidog y Llywodraeth yn honni o flaen ASau fod S4C yn saff yn eu dwylo, fe wnaethon nhw ryddhau dogfen gyda chynlluniau i'w dinistrio hi. Cynlluniau na fu unrhyw ymgynghori yn eu cylch gyda phobl Cymru. Mae'n gwbl groes i addewidion y ddau gorff. Pe byddai ASau wedi bod yn ymwybodol o'r cytundeb hwn cyn y bleidlais i dynnu S4C allan o'r Mesur Cyrff Cyhoeddus ddoe, mae'n gwbl bosib y gallem ni fod wedi ennill.""Y BBC nawr fydd yn penderfynu ar gyllideb S4C. Mae'r syniad y gallai ein hunig sianel deledu Gymraeg fod yn annibynnol o dan amgylchiadau o'r fath yn hollol gyfeiliornus. Mae'r Llywodraeth yn torri ei grant i'r sianel o 94% eisoes, mae'r newyddion hyn yn golygu y bydd rhagor o doriadau ar y ffordd. Mae'r sefyllfa yn argyfyngus a gallai'r sianel diflannu."Mae cynlluniau i S4C yn golygu bod y llywodraeth yn torri ei grant i S4C o 94% dros bedair blynedd, a gofyn i'r BBC gyfrannu at gost y gwasanaeth a chymryd drosodd rhedeg y sianel. Ers i'r Llywodraeth gyhoeddi ei chynlluniau, mae degau o fudiadau, arweinwyr y pedair prif blaid yng Nghymru, yr Archesgob Cymru Barry Morgan, dau bwyllgor San Steffan, a degau o filoedd o bobl wedi mynegi eu gwrthwynebiad.