S4C: Gwrthod talu'r drwydded deledu wrth i daith gychwyn

s4c-toriadau.jpgMae'r Parchedig Guto Prys ap Gwynfor a'r hanesydd Dr Meredydd Evans ymysg rhagor o bobl sydd wedi datgan heddiw (Dydd Iau, Ionawr 27) eu bod nhw'n gwrthod talu eu trwydded deledu, wrth i ymgyrchwyr iaith ddechrau cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus i drafod dyfodol S4C.Mae ymgyrchwyr iaith yn pryderu am ddyfodol y sianel ar ôl i Lywodraeth Prydain ddatgan ei bwriad i gwtogi ar gyllideb y sianel o 40% mewn termau real, trefnu bod y sianel yn cael ei rheoli gan y BBC a rhoi grymoedd eang yn nwylo Gweinidogion i gael gwared â'r sianel yn llwyr.Mae'r canwr Paul Thomas, Y Parchedig John Lewis Jones, Y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor, Goronwy Fellows, Aran Jones ac Ieuan Wyn o'r mudiad Cylch yr Iaith hefyd ymysg y rhai sydd yn gwrthod talu eu trwyddedau teledu.Fe fydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus dros y misoedd nesaf yn dechrau heno (Ionawr 27) yn Aberystwyth a Llanrwst.Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae ein hymgyrch yn codi momentwm, ar ddechrau ein taith o gyfarfodydd o gwmpas y wlad. Mae'r ymgyrch yn un cyfiawn: nid oedd y cynlluniau sy'n rhoi dyfodol ein hunig sianel teledu Cymraeg yn y fantol yn rhan o faniffesto unrhyw blaid cyn yr etholiad y llynedd. Nid oes mandad democrataidd dros gyd-gynllun y BBC a Llywodraeth San Steffan.""Un o fwriadau ein taith drwy Gymru yw annog pobl i drafod sut i achub y sianel a sut i newid S4C er mwyn sicrhau gorau i bobl Cymru, ac wrth gwrs beth all bobl wneud yn ymarferol"

"Mae'r sefyllfa yn argyfyngus a dyna pam rydym yn falch bod cymaint o bobl yn bwriadu peidio â thalu'r drwydded teledu. Mae'r sianel yn wynebu toriadau i'w chyllid o dros 40% mewn termau real; cael ei thraflyncu gan y BBC; a gweld y grymoedd i gael gwared â hi yn llwyr yn cael eu rhoi yn nwylo Gweinidogion San Steffan. Mae'r sefyllfa yn argyfyngus a dyna pam rydym yn falch bod cymaint o unigolion wedi datgan eu bod nhw'n bwriadu peidio â thalu'r drwydded teledu. Mae'r llywodraeth yn arbed 94% o'r arian oedden nhw'n arfer talu i'r sianel, toriad sydd yn gwbl annheg.""Rydyn ni nawr yn gwybod pe bai'r BBC wedi gwrthod y syniad, ni fyddai bygythiad i annibyniaeth y sianel. Bydd hi'n amhosib i sicrhau annibyniaeth o dan gyd-gynllun arfaethedig y Llywodraeth a'r BBC. Y gwir anffodus yw nad oedd penaethiaid y BBC yn Llundain yn poeni dim am S4C, a dyna pam rydym mewn sefyllfa mor argyfyngus ar hyn o bryd."Lansiodd y Gymdeithas ei hymgyrch ar y 1af o fis Rhagfyr, ac roedd y cant o bobl gyntaf wedi eu cofrestru o fewn ychydig diwrnodau. Ymysg y bobl sydd wedi datgan eu bwriad i wrthod talu eu trwydded teledu mae'r cantorion Dafydd Iwan a Bryn Fôn, Jill Evans ASE a'r academydd Dr Simon Brooks.Fe fydd y bobl sydd yn gwrthod talu'r drwydded teledu yn gwneud hynny hyd nes bod y Llywodraeth yn sicrhau annibyniaeth y sianel a chyllid digonol i redeg y gwasanaeth angenrheidiol i bobl Cymru. Mae'r mudiad wedi gofyn i bawb sydd am gefnogi'r ymgyrch hon e-bostio'r Gymdeithas ar post@cymdeithas.org neu drwy ffonio 01970 624501.