S4C i fynd yr un ffordd a Gwasanaeth y Byd BBC?

s4c-toriadau.jpgMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi honni bod y toriadau newydd i Gwasanaeth y Byd yn dangos na fydd S4C yn saff yn nwylo'r BBC.Fe fydd 650 o swyddi yn mynd yn y gwasanaeth ar ôl i'r Llywodraeth torri ei grant i'r sianel 16% a'i hariannu trwy'r ffi drwydded, cynllun tebyg i'r un a gynigiwyd ar gyfer S4C.Fe ddywedodd Menna Machreth, llefarydd darlledu'r mudiad:"Nid yw'r cwtogiadau a gyhoeddwyd heddiw yn newyddion da i S4C. O dan fawd y BBC mae'n debyg y bydd S4C yn derbyn yr un driniaeth Gwasanaeth y Byd, sef cwtogi sylweddol pellach ar adnoddau i sicrhau sianel Gymraeg. O bersbectif y penaethiaid y BBC yn Llundain, mae S4C yn wasanaeth hyd yn oed yn fwy ymylol nag ei Gwasanaeth y Byd."Beth sydd angen yw S4C annibynnol gyda chyllid digonol wedi ei sicrhau mewn statud. Ar hyn o bryd, mae'r sianel eisoes yn wynebu toriadau o dros 40% i'w chyllideb, cael ei thraflyncu gan y BBC, a phwerau ddiddymu'r sianel yn llwyr gyda gweinidogion. Oes, mae angen i'r sianel perfformio'n well, ond ni fydd cynlluniau arfaethedig y Llywodraeth yn gwella dim byd."