S4C: Lansiad grwp ymbarél

Grwp yn cwyno am 'sarhad' Llywodraeth y DG tuag at democratiaeth GymreigFe fydd nifer o fudiadau yn lansio grwp ymbarél newydd sydd yn ymgyrchu i achub S4C heddiw (10:30am, Dydd Llun 7fed Mawrth).Yn y lansiad byddant yn beirniadu Llywodraeth San Steffan am anwybyddu galwadau arweinwyr y pleidiau yng Nghymru am adolygiad llawn o'r sianel.Y mudiadau sydd wedi creu'r grwp ymbarél sydd am sefydlu S4C newydd sydd yn aml-gyfryngol, ydy BECTU, NUJ, Undeb yr Ysgrifenwyr, Equity, Undeb y Cerddorion, a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg. Fe fydd y grwpiau ymgyrch hefyd wedi lansio dogfen polisi ymgynghorol.Yn siarad ar ran cynghrair o undebau, y FEU (Ffederasiwn yr Undebau Adloniant), fe fydd David Donovan yn dweud:"Mae'r cynlluniau hyn yn peryglu dyfodol ein hunig sianel deledu. Rydym yn gandryll fod Llywodraeth y DG wedi dewis anwybyddu yn llwyr galwad gan arweinwyr y prif bleidiau yng Nghymru am adolygiad o'r sianel, yn hytrach na chynlluniau munud-olaf ac annoeth Jeremy Hunt. Mae 'na ffordd arall ymlaen i'n hunig sianel teledu Cymraeg sydd yn hollbwysig i'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru. Dyna'r hyn rydym wedi ceisio amlinellu yn ein dogfen polisi ymgynghorol - mae angen trafodaeth genedlaethol ar le'r Gymraeg yn y cyfryngau yn hytrach na syniadau twp y Llywodraeth yn Llundain."Pwyswch yma i lawrlwytho'r ddogfen polisi - (PDF)