Safonau iaith - angen i’r Gweinidog fod yn atebol

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ail-bwysleisio’r angen i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am ei phenderfyniad i wrthod y safonau iaith arfaethedig, wrth gyhoeddi eu bod wedi gofyn am gyfarfod brys gyda’r Gweinidog dros y Gymraeg.


Pwysleisiodd Sian Howys o’r mudiad bod angen i’r safonau wireddu’r hawl moesol sydd gan bobl i fyw yn Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd. Ychwanegodd bod y problemau diweddar gyda’r safonau yn deillio o’r diffyg ym Mesur y Gymraeg i gynnwys hawl cyffredinol i wasanaethau Cymraeg.

Meddai Sian Howys, llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

“Rydyn ni wedi ein siomi gan benderfyniad Leighton Andrews, mae’n debyg ei fod wedi ildio i bwysau gan gwmnïau a sefydliadau mawrion. Mae rhaid i’n ffocws fod ar benderfyniad y Gweinidog a’i ddal yn atebol. Ein blaenoriaeth ni fel mudiad yw sicrhau bod pobl Cymru yn cael y safonau iaith gorau, oherwydd y bydd hynny yn golygu rhagor o swyddi cyfrwng Cymraeg a gwell gwasanaethau yn yr iaith. Mae gan y safonau rôl i’w chwarae wrth sicrhau twf yn y Gymraeg dros y blynyddoedd i ddod - rhywbeth y gwnaethon ni bwysleisio yn ein cyfarfod gyda’r Prif Weinidog hefyd. 

“Ers i ni ddechrau ein hymgyrch dros ddeddf iaith newydd dros ddegawd yn ôl, rydyn ni wedi pwyso am hawliau i’r Gymraeg. Llwyddon ni sicrhau statws swyddogol i’r Gymraeg a Chomisiynydd yn y ddeddfwriaeth, ond gwrthododd y Llywodraeth roi’r hawl cyffredinol i wasanaethau Cymraeg ynddi. Mae hynny wedi arwain at y problemau diweddar oherwydd ei fod yn gadael lle i’r Llywodraeth beidio gwireddu hawliau pobl i’r Gymraeg yn y safonau.

 
Ychwanegodd: “Mae rôl a swyddogaeth y Comisiynydd yn un pwysig fel pencampwraig dros sicrhau hawliau i'r Gymraeg ac ni ddylid ar unrhyw gyfrif tanseilio ei gwaith.”
 

Yn llythyr y Gymraeg at Leighton Andrews yn gofyn am gyfarfod, ysgrifennodd Ms Howys: 

“Rydym am drafod sut y gallwn gael pawb i gydweithio ar ffyrdd o gyflwyno'r safonau iaith mewn ffordd bositif.  Mae pobol Cymru am fyw yn Gymraeg - gwelwyd hyn yn yr ymateb gwych a gafwyd i'n ralïau diweddar.  

“Ac eto mae cwmnïau mawrion, rhai ohonynt sy'n hapus i weithredu'n ddwy neu dair-ieithog mewn gwledydd eraill, yn ei chael yn anodd cydnabod bodolaeth y Gymraeg. Rôl ein Llywodraeth yw hyrwyddo pob agwedd o fywyd ein gwlad.  Byddai'n dda felly, petai'n Llywodraeth, sy'n gweithredu ewyllys y bobol wedi'r cyfan, yn barod i barchu dymuniad y bobol.  Er mwyn gwneud hyn mae angen gweithredu beiddgar a hyderus ar ran ein Llywodraeth. A dymuniad Cymdeithas yr Iaith yw chwarae rhan adeiladol yn y broses gan sicrhau hawl pobl Cymru i fyw yn Gymraeg.”