Mae Cymdeithas yr Iaith wedi rhybuddio y gallai’r safonau iaith Llywodraeth Cymru - rheoliadau a fydd yn gosod dyletswyddau ar gyrff i ddarparu gwasanaethau Cymraeg - fod yn wannach na chynlluniau iaith wedi’r cyhoeddiad heddiw.
Mae’r mudiad wedi pwysleisio bod yn rhaid i Aelodau Cynulliad basio’r safonau iaith, ac felly bod cyfle iddynt eu gwella a’u cryfhau cyn iddynt ddod i rym. Lansiodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg addewid dros hawliau iaith clir, megis yr hawl i weithio yn Gymraeg a’r hawl i chwarae yn Gymraeg, yn yr Eisteddfod y llynedd, addewid a gafodd ei lofnodi gan yr Aelodau Cynulliad Keith Davies, Elin Jones, ac Aled Roberts yn ogystal â nifer o fudiadau iaith.
Meddai Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Dylai’r safonau iaith sefydlu hawliau newydd a chlir i bobl fedru defnyddio’r Gymraeg bob dydd heb rwystr na thrafferth - ond nid yw cyhoeddiad heddiw yn cynnwys hawliau o’r fath, er gwaethaf cefnogaeth trawsbleidiol i’n galwadau. Yn wir, mewn nifer o feysydd megis gwasanaethau ffôn a gwefannau, mae peryg y gallai’r safonau gynnig llai na chynlluniau iaith. Mae’n galluogi awdurdod lleol i ddarparu gwasanaeth ffôn nad yw’n gyflawn, rhywbeth nad oedd Deddf Iaith 1993 yn ei ganiatau. Os yw hynny wir yn bosibiliad, mae’r Prif Weinidog wedi torri ei addewid i beidio cynnig opsiynau sy’n llai na’r hyn a gynigir gan gynlluniau iaith. Mae hefyd enghreifftiau yn y ddogfen lle mae’n rhaid optio mewn i wasanaeth Cymraeg, yn hytrach na’i fod yn digwydd yn ddi-ofyn.”
“Rydyn ni’n croesawu’r ffaith bod y Llywodraeth wedi symud hanner ffordd at geisio cynnig pethau fel gwersi nofio yn Gymraeg, fodd bynnag, rydyn ni’n credu y dylai fod yn hawl i bob plentyn yng Nghymru yn hytrach na loteri cod post.”
Ychwanegodd: “Bydd pleidlais ar lawr y Cynulliad cyn diwedd y flwyddyn. Felly, yn nwylo Aelodau Cynulliad y bydd un o'r penderfyniadau pwysicaf - penderfyniad a fydd yn llywio tynged y Gymraeg dros y pymtheng mlynedd nesaf a mwy. Mae ganddyn nhw’r cyfle i sicrhau bod rhagor o bobl, yn enwedig y genhedlaeth nesaf, yn cael byw yn Gymraeg.”
“Mae polisi iaith mewnol Cyngor Gwynedd wedi cael ei ganmol am gryfhau’r Gymraeg yn lleol. Mae angen haen uwch yn y safonau a fydd yn galluogi’r Comisiynydd i sicrhau bod rhagor o gyrff yn gweinyddu’n Gymraeg fel Cyngor Gwynedd.”
Mae’r Gymdeithas wedi rhoi tan Chwefror 1af i’r Prif Weinidog ddatgan ei fwriad i sefydlu hawliau iaith clir - megis yr hawl i blant dderbyn gwasanaethau hamdden fel gwersi nofio yn Gymraeg - fel rhan o weithredu mewn chwe maes polisi er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn tyfu dros y blynyddoedd i ddod.