Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i'r newyddion bod y Gweinidog Leighton Andrews wedi gwrthod y safonau iaith a gafodd eu cynnig gan Gomisiynydd y Gymraeg.
Mae'r Gymdeithas yn pryderu fod y Gweinidog wedi ildio i bwysau gan y sector breifat a lobiwyr eraill i wanhau gwasanaethau Cymraeg.
Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Mae hyn yn newyddion drwg. Roedd y safonau hyn yn cynnwys gofynion sylfaenol iawn; gan gynnig isafswm o wasanaethau Cymraeg y gallai pobl eu disgwyl lle bynnag oedden nhw. Mae penderfyniad y Gweinidog i wrthod cyngor y Comisiynydd yn codi cwestiynau mawr - am y broses ac am rôl y Comisiynydd. Pam penodi Comisiynydd ac wedyn anwybyddu ei chyngor arbenigol?
"Wrth reswm, mae'n arwain rhywun at y casgliad bod y Llywodraeth wedi penderfynu bod cyrff ac elw cwmnïau mawrion, fel BT, Nwy Prydain, Arriva, yn bwysicach na'r Gymraeg. A hynny, er gwaethaf canlyniadau'r Cyfrifiad sydd yn dangos bod yr iaith yn wynebu argyfwng.
Ychwanegodd Mr Farrar:
"Rydyn ni wedi cael pum mlynedd o ymgynghori ar y ddeddfwriaeth a'r dyletswyddau hyn. Roedd yr ymgynghoriad gan y Comisiynydd ar y safonau yn drylwyr iawn a cafwyd cannoedd o ymatebion iddo. Nid siarad am y safonau sydd ei angen ond eu rhoi ar waith - rydym yn pryderu y bydd rhagor o oedi diangen wrth i'r llywodraeth ail-adrodd ymgynghoriad y Comisiynydd i bob pwrpas.
"Mae miloedd o bobl wedi dod i'n ralïau dros y misoedd diwethaf i ddatgan eu bod nhw 'eisiau byw yn Gymraeg'. Mae pobl yn dal i ddod atom i nodi nad ydyn nhw wedi gallu cael gwasanaeth Cymraeg. Mae mwyfwy o blant yn derbyn eu haddysg drwy'r Gymraeg ond mae perygl o hyd fod y Gymraeg yn aros wrth gatiau'r ysgol. Yn amlwg mae yna ddiffygion sydd angen mynd i'r afael â nhw, dydy oedi fel hyn ddim yn datrys unrhyw fater."