Wrth i'r Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 ddod i rym heddiw (4ydd o Ionawr) mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud ei fod yn gobeithio y bydd hyn yn arwain at newidiadau mwy sylweddol yn y drefn cynllunio.
Bydd y newidiadau yn: sefydlu'r Gymraeg fel ystyriaeth berthnasol (material consideration) statudol ym maes cynllunio am y tro cyntaf; sefydlu proses o asesu effaith iaith cynlluniau datblygu lleol, rhanbarthol ynghyd â'r fframwaith datblygu genedlaethol; a chreu pwrpas statudol i'r system gynllunio.
Dywedodd Elwyn Vaughan, llefarydd Cymdeithas yr Iaith ar Gymunedau Cynaliadwy:
“Mae'n hen bryd i ni weld y Gymraeg yn cael ei ystyried wrth ddatblygu tai a chynllunio ar gyfer dyfodol cymunedau Cymru. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn ymgyrchu am dros chwarter canrif am drefn gynllunio newydd sydd yn rhoi statws i'r Gymraeg.”
Bydd y Bil Cynllunio hefyd yn golygu bod rhaid cynnal asesiad o effaith Cynllun Datblygu Lleol ar y Gymraeg.
Ychwanegodd Elwyn Vaughan:
“Er bod rhai cynghorau yn rhoi ystyriaeth i'r Gymraeg wrth baratoi eu Cynllun Datblygu Lleol mae sylwadau anffodus arweinydd Cyngor Caerdydd wedi dangos fod angen deddf.
“Mae'r datblygiad tai gafodd ei wrthdroi ym Mangor yn ddiweddar, yr holl dai sydd am gael eu hadeiladu yn Sir Gâr fel rhan o'r Cynllun Datblygu Lleol, a'r ffaith nad oes tai i bobl ifanc leol mewn nifer o bentrefi yng Ngheredigion yn dangos fod angen Bil Cynllunio sy'n rhoi lle teg i'r Gymraeg yn y byr-dymor ond bod angen trawsnewid y system cynllunio yn yr hirdymor er mwyn asesu'r angen lleol, fel bod y tai iawn yn y lle iawn pan mae eu hangen.”