Sail i adeiladu arno ym Mhowys

Wedi i Weithgor Powys gyfarfod ddydd Gwener a derbyn papur fframwaith fel sail i'w waith mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud ei fod yn ddatblygiad cadarnhaol sydd angen adeiladu arno.

Meddai Elwyn Vaughan, ymgyrchydd lleol:
“Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod i ddau gyfarfod cyntaf Gweithgor Powys er mwyn manteisio ar y cyfle i gael y cyngor sir i wneud newidiadau cadarnhaol o ran y Gymraeg. Wedi dweud hynny, mae gyda ni'n galwadau ein hunain, y byddwn ni  yn eu lansio ar faes yr Eisteddfod mewn rali ar Awst y 4ydd.”

Mae'r galwadau sydd gan Gymdeithas yr Iaith yn rhestru nifer o bethau gall y cyngor wneud er mwyn gweld twf yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sir, rhai pethau i'w gwneud yn syth a phethau eraill i'w gweithredu dros amser.
Yn sail i'r galwadau, sydd yn edrych ar feysydd yn amrywio o gynllunio, hamdden, addysg a iechyd a gofal; mae egwyddorion craidd sydd yn galw am gydnabod sefyllfa argyfyngus y Gymraeg yn y sir a dangos parodrwydd i wrth-droi hynny.

Ychwanegodd Elwyn Vaughan:
“Bydd cyfle gan bawb i weld ein galwadau a rhoi eu sylwadau arnynt wedi'r rali yn yr Eisteddfod. Yn ystod y rali bydd Dafydd Iwan, Arwyn Groe a Tamsin Davies o Gymdeithas yr Iaith yn siarad am addysg, cynllunio a'r Gymraeg yn y sir a'r hyn rydyn ni'n galw ar i'r cyngor sir ei wneud.
“Rydyn ni'n cydnabod nad dim ond y cyngor sir sydd angen newid ond rydyn ni'n galw arnyn nhw i ddangos arweiniad; ac mae'r ddogfen yn galw am gydweithio gyda gwahanol fudiadau ar draws y sir a byddai'n arwain at dynnu pobl ar draws Powys i fyw yn Gymraeg. Dechrau'r daith fydd y rali, a gobeithio y gallwn ni i gyd weithio gyda'n gilydd dros y Gymraeg.”

Dydd Mawrth 4ydd o Awst - stondin Cymdeithas yr Iaith a gorymdaith i babell Cyngor powys - maes yr Eisteddfod